Staffnet+ >
Mesurau diogelwch mewn gorsafoedd pleidleisio
Mesurau diogelwch mewn gorsafoedd pleidleisio
Er mwyn tawelu meddwl staff sydd â diddordeb mewn gweithio yn yr etholiadau sydd ar ddod, mae'r tîm cofrestru etholiadol wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i leihau'r risg o Covid-19.
Er mwyn sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel rhoddir y mesurau canlynol ar waith:
- Glanhau rheolaidd trwy gydol y dydd o bwyntiau cyffwrdd fel drysau, bythau pleidleisio ac unrhyw offer ysgrifennu rydych chi'n eu darparu;
- Bydd sgriniau Perspex yn cael eu gosod er mwyn i staff yr orsaf bleidleisio eistedd y tu ôl;
- Rheoli ciw i reoli'r mynediad i'r orsaf at ddibenion pellhau cymdeithasol, yn ogystal ag annog pleidleiswyr a rhanddeiliaid eraill sy'n mynychu'r orsaf bleidleisio i gadw at y mesurau iechyd cyhoeddus sydd ar waith, megis gwisgo gorchuddion wyneb a glanweithio eu dwylo wrth fynediad ac allanfa;
- Seibiannau rheolaidd, yn enwedig gan y bydd staff yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn gorsafoedd pleidleisio;
- Lle bo amgylchiadau'n caniatáu, gallai staff mewn gorsafoedd pleidleisio weithio o fewn swigen eu cartref;
- Bydd marciau llawr y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio yn helpu i reoli ciwiau, cynnal pellter diogel rhwng aelodau staff, a rhwng staff a phleidleiswyr, a sefydlu system unffordd o amgylch yr orsaf bleidleisio.
Ymgymerir â'r un drefn yn y Gwirio a Chyfrif ddydd Gwener 7 Mai a dydd Sul 9 Mai.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn yr etholiad ac nad ydych wedi bod mewn cysylltiad â Chofrestru Etholiadol i gofrestru'ch diddordeb, cysylltwch â'r swyddfa'n uniongyrchol, bydd y tîm yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cyfleoedd Staff Etholiadol