Dechreuaf fy neges yr wythnos hon gyda newyddion gwych o gofio bod hon wedi bod yn wythnos arall o lwyddiant i'r Cyngor mewn rhai seremonïau gwobrwyo proffil uchel.
Enillodd datblygiad Goodsheds yn y Barri, a adeiladwyd gan bartneriaeth a oedd yn cynnwys ein timau Adfywio ac Eiddo, y Datblygiad Masnachol Gorau yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd.
Yn y seremoni canmolwyd gwaith y Cyngor. Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, AoS: "Gan adeiladu ar brofiadau o ddylunio a chyflwyno prosiectau datgarboneiddio ysgolion, mae'r Cyngor yn datblygu model ar gyfer datgarboneiddio eu hystâd addysgol ‘mewn defnydd'.Yna ddoe ein enillodd tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif wobr Dangos Cynaliadwyedd Amgylcheddol yng ngwobrau Ystadau Cymru am eu rhaglen datgarboneiddio arloesol.
"Mae model trydanol i gyd wedi'i wella gan ffynonellau trydan adnewyddadwy ychwanegol - gan greu'r ysgol 'defnydd' carbon sero-net gyntaf yng Nghymru. Mae'r model yn cael ei ddatblygu ymhellach i fynd i'r afael â sero net."
Mae bob amser yn dda gweld gwaith ein timau’n cael ei gydnabod yn genedlaethol. Fodd bynnag, i mi, mae hyd yn oed yn fwy felly pan fydd ein cyflawniadau'n cael eu cydnabod gan ein trigolion.
Yn gynharach yr wythnos hon anfonwyd neges Facebook ataf a rennir gan un o'n trigolion. Mae'n nodi: "Pan gafodd fy mab ieuengaf ei eni ym Mro Morgannwg yn 2002, roedd swm y gwastraff dinesig a anfonwyd i safleoedd tirlenwi yn agos i 90%. Yn 2020-21, roedd yn is na 5%.
"Cafodd y sir lle cafodd ei eni gyfradd ailgylchu o 71% y llynedd a dim ond pellter byr o'r man lle cafodd ei eni gallwch nawr ddod o hyd i Benthyg Cymru – llyfrgell o bethau, siop ddiwastraff, a sawl ysgol eco."
Rydym i gyd yn gweithio'n galed i newid ein sefydliad yn un sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae gwaith ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn enghraifft wych o hyn ac mae'n galonogol iawn gweld ein trigolion yn ei werthfawrogi gymaint ag yr wyf fi.
Yr wyf wedi cyfeirio'n rheolaidd at rywfaint o'r gwaith rhagorol y mae rhai o'n hysgolion wedi arwain arno yn ystod y pandemig a'r wythnos hon yr oeddwn yn falch o gael e-bost yn amlinellu rhai o'r mentrau a roddwyd ar waith yn Ysgol Gynradd Rhws. Yn ddiweddar, mae'r ysgol wedi gosod ardal ddysgu awyr agored newydd ar ffurf tîpi. Mae hyn nid yn unig yn ychwanegu at eu nenlin, ond mae hefyd yn creu gofod mawr ei angen, enfawr, cyffrous ac wedi'i awyru'n dda. Mae'n darparu 100m2 o ofod llawr sydd wedi'i ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Bydd yr ysgol yn cynnal gwersi dosbarth ac ymarferol yn y tîpi ac yn edrych ymlaen at gynnal perfformiadau ysgol a chynnal gwersi Addysg Gorfforol yno hefyd. Dim ond un agwedd ar waith gwirioneddol arloesol yn yr ysgol yw hwn a fydd yn nodwedd ar StaffNet+ yn fuan.

Dywedir yn aml mai'r unig beth cyson mewn bywyd yw newid ac un peth a wyddom yn sicr yw mai dim ond yn y blynyddoedd i ddod y bydd cyflymder y newid mewn llywodraeth leol yn cynyddu. Er nad ydym eto'n gwybod beth fydd setliad ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth Cymru, bydd hyd yn oed y sefyllfa orau yn dal i adael diffyg mawr. Yn y cyd-destun hwn yr ydym heddiw wedi lansio ein hymgynghoriad cyhoeddus ar ein cyllideb ar gyfer 2022-23.
Rydym am glywed gan gynifer o bobl â phosibl, gan gynnwys ein staff sy'n byw yn y Fro. Wrth ddrafftio ein cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb, rydym wedi paratoi ar gyfer amrywiaeth o bosibiliadau, o ostyngiad o 1% yn ein setliad i gynnydd o 4.42%, a fyddai'r un cynnydd â'r llynedd. Ym mhob un o'r senarios hynny, mae effaith y cynnydd yn y Dreth Gyngor a ragwelir o 3.2%, 3.9%, 4.2% (cyfradd MPD mis Hydref) a 7.05% (yr olaf yw'r ffigur a fyddai'n dod â'r Fro yn unol â chost gyfartalog Cymru) wedi'i hystyried.
Mae'r ymgynghoriad ar y gyllideb yn rhoi cyfle i bobl ddweud wrthym beth yw eu barn am y cynigion. Mae fideo byr yn esbonio'r cynigion a'r arolwg ar-lein i'w weld ar ein gwefan. Rydym am glywed gan unrhyw un sy'n byw yn y Fro felly edrychwch a rhannwch y wybodaeth sydd ar-lein gyda ffrindiau a theulu fel y gallwn ystyried cymaint o safbwyntiau â phosibl.
Dylech erbyn hyn fod wedi clywed am ein trefniadau gweithio Nadolig gan eich rheolwr. Fel yn achos y llynedd byddwn yn cau ein hadeiladau swyddfa ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol o 4:30pm ddydd Gwener 24 Rhagfyr tan 8.00am ddydd Mawrth 4 Ionawr.
Gyda llawer o'r sefydliad yn gweithio o bell ar hyn o bryd mae hwn yn cau swyddfeydd yn hytrach na chau gwasanaeth ond rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn caniatáu i gynifer o staff â phosibl gymryd seibiant os yw gofynion y gwasanaeth ac anghenion ein preswylwyr yn caniatáu hynny.
Gwn a gwerthfawrogaf nad yw hyn yn opsiwn i bawb. Bydd angen darparu gwasanaethau hanfodol o hyd. Yr wyf bob amser yn hynod ddiolchgar i'r timau hynny yn Cyswllt Un Fro, y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Gwasanaethau Cymdogaeth, yn ogystal â meysydd eraill, a fydd yn gweithio yr un mor galed, os nad yn galetach dros gyfnod y Nadolig ag y byddent ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.
Diolch fel bob amser am eich ymdrechion yr wythnos hon ac am eich cefnogaeth barhaus. Diolch yn fawr.
Rob.