Neges o'r Rheolwr Gyfarwyddwr

22 Rhagfyr 2021 

Annwyl gydweithwyr,  

Fel y byddwch i gyd yn ymwybodol, ein sefyllfa ni fel Cyngor ers peth amser yw y dylai pob aelod o staff weithio gartref lle bynnag y bo modd. Nid yw hyn wedi newid ond gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheolau newydd yr wythnos hon yn datgan bod rhaid i bobl weithio gartref lle bo hynny'n rhesymol ymarferol, roeddwn yn meddwl y gallai fod o gymorth egluro ein canllawiau presennol i staff. Gweithio gartref yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn gweithleoedd ac mae wedi bod yn effeithiol wrth arafu trosglwyddiad y feirws dros yr 20 mis diwethaf. 

Dim ond o un o'n hadeiladau swyddfa neu leoliad sefydlog arall y dylai staff y Cyngor fod yn gweithio os oes angen busnes clir iddynt wneud hynny. Dylai pob rheolwr allu esbonio pam fod unrhyw un o aelodau ei dîm, os o gwbl, yn gweithio yn un o’n hadeiladau ar hyn o bryd. 

Defnyddiwyd canllawiau Llywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau'r Cyngor.

Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i alluogi staff i weithio gartref lle bynnag y bo modd ac felly os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y gallai hyn fod yn berthnasol i'ch rôl, dylech siarad â'ch rheolwr. Os oes gan reolwyr neu staff bryderon am effaith gweithio gartref naill ai ar eu lles eu hunain neu ar les eu cydweithiwr, yna dylent hefyd siarad â'u rheolwr llinell.  

Os bydd rheswm busnes cadarn dros gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, dylid cynnal y rhain yn unol â'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a'n canllawiau mewnol ar weithio mewn swyddfa. Dan reolau newydd Llywodraeth Cymru, gall unigolion a chyflogwyr gael dirwy am beidio â chymryd camau i weithio gartref os oes modd gwneud hynny. Mae llythyr templed ar gael i'r staff hynny y mae'n ofynnol iddynt deithio i'r gwaith. Gellir lawrlwytho hwn o'r adran diweddariadau canllawiau staff ar StaffNet+

Os yw'n ofynnol i chi weithio o un o'n hadeiladau neu fynychu cyfarfod wyneb yn wyneb, dylech wneud prawf llif unffordd cyn cyrraedd. Mae profion rheolaidd yn hanfodol i atal tarfu ar ein gwasanaethau, gan ei fod yn caniatáu i achosion gael eu dal yn gynnar cyn iddynt ledaenu ar draws ein gweithlu, gan arwain at absenoldebau oherwydd salwch neu hunanynysu.

Mae staff gofal cymdeithasol rheng flaen y Cyngor ynghyd â staff addysgu a chydweithwyr eraill sy'n gweithio mewn ysgolion wedi bod yn defnyddio profion llif unffordd ac yn cofnodi eu canlyniadau ers peth amser a gall yr holl staff bellach archebu pecynnau prawf llif unffordd yn uniongyrchol gan y Tîm Cyfarpar Diogelu Personol.

Mae rheolau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu hefyd wedi newid heddiw. Gofynnir i bob person dros 18 oed sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant 5 i 17 oed gymryd profion llif unffordd bob dydd am 7 diwrnod os ydynt yn dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19. Nid oes angen iddynt hunanynysu oni bai bod ganddynt brawf llif unffordd positif neu eu bod yn datblygu symptomau. Yn y naill achos neu'r llall, dylent archebu prawf PCR cyn gynted â phosibl.

Gall unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf uchod ac sy'n ynysu ar hyn o bryd fel cyswllt roi’r gorau i wneud hynny a defnyddio profion llif unffordd yn ddyddiol yn lle hynny. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n ynysu ar ôl dod i gysylltiad ag achos Omicron a gadarnhawyd neu a amheuir.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am newidiadau a diweddariadau i drefniadau gweithio ar StaffNet+

Cofion,

Rob.