Staffnet+ >
Neges wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

23 Ebrill, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod i gyd yn dda wrth i wythnos waith arall ddirwyn i ben.
Y penwythnos hwn bydd cyfyngiadau symud yng Nghymru yn cael eu llacio ymhellach. Gyda grwpiau o hyd at chwe oedolyn, o hyd at chwe aelwyd wahanol, yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored o yfory. Dilynir hyn gan ailagor lletygarwch awyr agored o ddydd Llun.
Rwy'n gwybod bod llawer o waith wedi'i wneud y tu ôl i'r llenni i baratoi ar gyfer y newid hwn, yn enwedig gyda thrwyddedau caffi a bwytai yn cael eu hadnewyddu ac, am hynny, hoffwn ddiolch i'r holl staff dan sylw.
Yr wythnos ddiwethaf soniais am yr arolwg llesiant staff yn dirwyn i ben ac er ein bod wedi cael ychydig dros 1,000 o ymatebion hyd yma, , teimlwn ei bod yn iawn ymestyn yr arolwg hwn am wythnos arall i ganiatáu i unrhyw aelodau staff ychwanegol rannu eu hadborth gyda ni. Felly, os gwelwch yn dda rhannwch yr arolwg gyda'ch cydweithwyr a'u hannog i ymateb erbyn 30 Ebrill. Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn llywio rhywfaint o'n gwaith adfer felly mae'n bwysig ein bod yn cyrraedd trawstoriad da o staff. Your feedback is important to us and will inform some of our recovery work so it’s important that we reach a good cross-section of staff.
Yr oeddwn yn falch o gael e-bost yn ddiweddar gan David Blackwell, Pennaeth ysgol St Richard Gwyn yn y Barri. Yn ei e-bost soniodd David am ychydig o gyflawniadau diweddar. Yn gyntaf, roedd am ddiolch i rai cydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y misoedd diwethaf, gan ddweud:
'Rwyf wedi bod yn lwcus i weithio gyda phobl mor broffesiynol a chymwynasgar drwy lawer o heriau gwahanol. Mae Paula Ham, David Davies, Trevor Baker a Morwen Hudson wedi bod yn gefnogaeth mor amhrisiadwy mewn sawl maes yn ymwneud â rhedeg yr ysgol. Heb sôn am y cymorth rydym wedi'i gael o ran llifogydd ac adeiladau yn fwy diweddar gan Lisa Lewis, Miles Punter, Mike Matthews a Sue Williams. Bob tro y mae angen rhywbeth arnaf, maent wedi bod yn barod i'm cefnogi lle bynnag y bo modd, hyd yn oed pan nad yw efallai'n sgwrs hawdd, ni allaf eu canmol ddigon am y cyfan y maent wedi'i wneud.'
Hoffwn adleisio diolch David i chi i gyd am eich cefnogaeth.
Yn ail, roedd David am dalu teyrnged i'w PA, Caroline Robinson, a ddathlodd 25 mlynedd yn gweithio yn St Richard Gwyn yr wythnos hon. Rwy'n siŵr y bydd gan Caroline lawer o atgofion melys o'i hamser yn yr ysgol, llongyfarchiadau ar eich pen-blwydd gwaith. Ac a gaf i rannu rhai o eiriau caredig David,
'Caroline yw curiad calon ein hysgol ac rwy'n gobeithio y bydd hi yma am ychydig flynyddoedd eto, byddwn i ar goll hebddi.'
Hoffwn hefyd gydnabod gwaith rhagorol a wnaed gan Chloe Jenkins sy'n gweithio yn nhîm Ysgolion y 21ain Ganrif. Mae Chloe wedi ymrwymo i weithio gyda'n hysgolion i wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o fioamrywiaeth ar safleoedd ein hysgolion a gwella cyflwr natur ar dir ein hysgol. Mae'n amlwg o'r cyflwyniad ei bod wedi ei lunio fod hwn yn faes y mae Chloe yn angerddol iawn yn ei gylch ac mae wedi treulio amser yn ymchwilio ac yn gweithio gyda'n partneriaid i wella'r agenda natur leol. Da iawn, Chloe, edrychaf ymlaen at weld sut mae'r prosiect hwn yn mynd yn ei flaen ac edrychaf ymlaen hefyd at rannu'r gwaith hwn gyda'n partneriaid ar draws Bro Morgannwg.

Gan gadw ar thema'r amgylchedd, efallai eich bod wedi gweld ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ein cynllun Prosiect Sero - Dim Newid Hinsawdd ac rwyf wedi bod yn gwylio gyda diddordeb sut mae ein trigolion yn ymgysylltu â'n polau Twitter a'n harolygon sydd ar y gweill. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Sero, gallwch ddod o hyd i rai fideos a mwy o fanylion am ein cynlluniau ar ein gwefan.
Cyn i mi ddirwy y neges hon i ben, hoffwn sôn am gyfle i ymuno â Sesiwn Holi y Caffi Dysgu arall y byddaf yn ei chynnal ar 28 Ebrill rhwng 2-3pm. Os hoffech fod yn bresennol, gofynnwn i chi os gwelwch yn dda archebu eich lle a chyflwyno eich cwestiynau ymlaen llaw. Bydd unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hyn sy'n cael ei drafod ond nad yw'n gallu bod yn bresennol yn gallu gwylio recordiad a fydd ar gael drwy iDev yn dilyn y sesiwn. Rwy'n mwynhau clywed gan gydweithwyr ar draws y sefydliad am y materion sy'n bwysig i chi ac fel Uwch Dîm Arweinyddiaeth rydym yn ystyried y rhain, felly ymunwch os hoffech wneud hynny.
Yn ogystal â chyflwyno cwestiynau ymlaen llaw, gall yr holl gyfranogwyr ofyn cwestiynau trwy'r weithred sgwrsio ar y diwrnod.
Mwynhewch y penwythnos. Cadwch yn ddiogel, diolch yn fawr.
Rob