Staffnet+ >
Talu teyrnged i aelod o staff a fu farw'n sydyn
Talu teyrnged i aelod o staff a fu farw'n sydyn
Yn drist iawn, bu farw Michael John Nott, un o hoelion wyth adran Parciau'r Cyngor, o drawiad ar y galon ar 25 Mawrth.
22 Ebrill, 2021
Roedd Michael, neu Notty i’w ffrindiau, yn allweddol o ran sicrhau'r safonau uchel o arddwriaeth a rheolaeth sydd eu hangen i ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer nifer o barciau blaenllaw’r Cyngor.
Yn gydwybodol a chraff iawn, newidiodd Notty ei gyfeiriad gyrfaol tua phum mlynedd yn ôl. Ar ôl gweithio'n gyntaf yn y maes cynnal a chadw parciau ar ein safleoedd baner werdd, symudodd i dîm adnewyddu meinciau’r gaeaf, gan sylweddoli mai dyma'r rôl berffaith iddo.
'Roedd gwaith Mike bob amser yn fanwl iawn ac o’r ansawdd uchaf, ac roedd wrth ei fodd yn ei wneud.'
Dywedodd ei reolwr, Adam Sargent:
Aeth Mike ymlaen wedyn i weithio yn y tîm cynnal a chadw meysydd chwarae, gan helpu i sicrhau bod y cannoedd o eitemau o offer chwarae rydym yn eu rheoli yn ddiogel.
'Picasso’r Parc... Mae meinciau newydd Mike fel newydd, gyda'r cotiau niferus o baent yn disgleirio fel gwydr.'
Ychwanegodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai.
Yn ddiweddar mae Mike wedi bod yn peintio nifer o hen gychod rhwyfo o lyn cychod y Cnap i'w defnyddio fel planwyr yn ein prif ardaloedd twristiaeth. Fel teyrnged bach i'w holl waith caled dros y blynyddoedd, bydd un o'r cychod yn cael ei enwi 'The Notty'. Pan fydd ei ffrindiau a'i deulu’n ei weld, gobeithiwn y byddant yn cofio'r gwaith caled y tu ôl i'r prosiect a'r dyn wrth y llyw.ily see it they will remember the hard work behind the project and the man at the helm.
Byddwn yn gweld eisiau Notty yn fawr, ac mae ein meddyliau gyda’i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.