Annwyl gydweithwyr,
I’m writing to provide you with an update at the end of the Vale of Glamorgan’s first week under local lockdown restrictions.
Rwy'n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ddiwedd wythnos gyntaf Bro Morgannwg o dan gyfyngiadau clo lleol.
Mae'r rhan fwyaf ohonon ni bellach yn byw dan gyfyngiadau clo lleol, boed hynny ym Mro Morgannwg neu ardaloedd awdurdodau cyfagos. Wrth i gyfnod o ansicrwydd pellach effeithio arnon ni, mae'n bwysig ein bod i gyd yn gofalu amdanon ni’n hunain ac yn meddwl am ein hiechyd a'n lles. Yn dilyn sgyrsiau diweddar gyda staff yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae'n amlwg bod angen i bob un ohonon ni gofio bod gweithio o bell ac o'r cartref yn dod â'i heriau ei hun.
Gobeithio y bydd y canlynol o gymorth:
- Pan yn gweithio gartref, sicrhewch eich bod yn cael egwyl reolaidd o'ch sgrin;
- Byddwch yn gorfforol actif a gwnewch ymarfer corff yn yr awyr agored mor aml ag y gallwch;
- Sicrhewch eich bod chi ac aelodau eich tîm yn cymryd eich hawl i wyliau blynyddol i gael seibiant estynedig o'r gwaith.
Mae ein tîm cyfathrebu wedi bod yn paratoi rhai negeseuon lleol cadarnhaol yn ystod y cyfnod cloi i'w rhannu gyda thrigolion ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd y rhain yr un mor berthnasol i staff. Un peth cadarnhaol y gellid ei wneud yw cefnogi busnesau bach lleol a'r economi leol drwy siopa'n lleol yn ystod y cyfnod cloi lleol. Cofiwch wisgo masg wrth fynd i siopau, caffis a bwytai.
Efallai y carech ymgymryd â hobi newydd neu ennill sgiliau newydd, fel dysgu Cymraeg er enghraifft. Mae gan bob aelod o staff hawl i ddilyn cwrs wedi'i ariannu'n llawn gyda'n tîm Dysgu Cymraeg. Mae gwersi'n cael eu darparu o bell ar hyn o bryd drwy adnoddau ar-lein.
Enghraifft arall yw dod i adnabod mwy ar eich ardal leol, gan gynnwys parciau a mannau agored gwyrdd. Caniateir cyfarfod â theulu a ffrindiau yn yr awyr agored, cyn belled â'ch bod yn cynnal pellter cymdeithasol ac yn byw yn yr un ardal awdurdod lleol.
Os nad ydych yn siŵr beth sy'n bosibl a'r hyn a ganiateir o dan y cyfyngiadau presennol, ewch i
Llywodraeth Cymru
Fel y gwyddoch efallai, ar 24 Medi, lansiodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU app COVID-19 y GIG ledled Cymru a Lloegr. Mae hwn yn arf pwysig iawn a fydd yn eich cadw chi ac anwyliaid yn ddiogel yn ogystal â chefnogi'r system Profi, Olrhain, Diogelu.
Nodweddion yr app yw:
- Hysbysiadau: yn rhoi gwybod i chi faint o risg coronafeirws sydd yn eich ardal cod post
- Olrhain: cewch wybod os ydych wedi bod yn agos at ddefnyddwyr app eraill sydd wedi profi’n bositif
- Gwirio: cewch wybod os ydych wedi ymweld â lleoliad yn ddiweddar lle gallech fod wedi dod i gysylltiad â choronafeirws
- Symptomau: gwiriwch a oes gennych symptomau coronafeirws a gweld a oes angen i chi drefnu prawf am ddim
- Profi: eich helpu i drefnu prawf a chael eich canlyniad yn gyflym
- Ynysu: cadw golwg ar sawl diwrnod hunan-ynysu rydych wedi ei wneud a chael gafael ar gyngor perthnasol.
Cewch fwy o wybodaeth yma.
O sôn am les, roeddwn yn falch iawn o glywed gan Melanie Weeks yn ddiweddar, Uwch Lyfrgellydd ym Mhenarth a ddywedodd wrthyf ei bod wedi derbyn cerdyn 'diolch' gan aelod o'r llyfrgell. Roedd y preswylydd lleol, sy'n 90 mlwydd oed ac yn gaeth i'r tŷ, wedi ysgrifennu at Melanie i ddiolch iddi hi a'i chydweithwyr am gadw mewn cysylltiad a pharhau i ddosbarthu llyfrau gydol y pandemig.
Gwn fod y gwasanaeth llyfrgelloedd yn un y mae llawer o drigolion wedi dibynnu arno ac yn parhau i ddibynnu arno ac rwy'n ddiolchgar iawn i'n holl staff llyfrgell am sicrhau’r gwasanaeth mewn amgylchiadau anodd, er lles pawb.
Bu’n rhaid i fi hefyd achub ar y cyfle i ysgrifennu at Chris Britten, Pennaeth Ysgol Y Deri, yn ddiweddar, i'w longyfarch ef a'i staff ar lwyddiant rhaglen ddogfen y BBC, 'A Special School'.
Roedd yn gwbl ysbrydoledig ac emosiynol. Gwnaeth i fi deimlo’n aruthrol o falch o’r cyswllt â Chyngor Bro Morgannwg. Mae nifer o staff o fewn y Cyngor wedi dweud wrthyf pa mor wych yw cael cyfleuster o'r fath ym Mro Morgannwg. Fodd bynnag, yr hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth yw'r unigolion sy'n gweithio o fewn y cyfleuster hwnnw ac mae'r tîm cyfan yn Ysgol y Deri i gyd yn haeddu clod enfawr. Diolch a llongyfarchiadau!
Mae'r tair pennod ar gael o hyd ar BBC iPlayer a byddwn yn annog unrhyw un sydd heb eu gweld i’w gwylio.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith parhaus a'ch ymrwymiad at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae ymdrechion pawb yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn. Gofal piau hi a chadwch yn ddiogel!
Diolch,
Rob