Staffnet+ >
Neges wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

6 Tachwedd 2020
Annwyl Gydweithwyr,
Wrth i ni ddechrau ar benwythnos olaf y cyfnod atal yng Nghymru, ysgrifennaf atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol ym Mro Morgannwg ac i edrych ymlaen at yr hyn a ddaw i’n rhan yr wythnos nesaf.
Ddydd Mercher ysgrifennais at yr holl staff i'ch hysbysu bod nifer yr achosion Covid-19 ym Mro Morgannwg wedi bod yn cynyddu'n gyflym dros yr wythnos ddiwethaf. O ganlyniad, agorodd uned profi symudol yn y Barri ddoe i'w gwneud mor hawdd â phosibl i drigolion lleol gael prawf os ydynt yn datblygu symptomau. Cofiwch fod staff y Cyngor yn cael eu cydnabod fel gweithwyr allweddol yn yr ymateb i'r pandemig. Os oes angen prawf arnoch, gallwch gael mynediad at hyn drwy'r porth gweithiwr allweddol a weinyddir gan ein tîm Adnoddau Dynol. Os oes gennych unrhyw un o symptomau COVID-19 – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golli blas neu arogl – dylech siarad â'ch rheolwr llinell a all drefnu prawf i chi, neu e-bostiwch y tîm profi yn covid-19testing@valeofglamorgan.gov.uk. Ni ddylech archebu prawf ar-lein.
Hoffwn ddiolch i'r holl gydweithwyr a gymerodd ran i hwyluso sefydlu'r uned profi symudol. Fe weithion nhw’n gyflym iawn ochr yn ochr â chydweithwyr o'r Bwrdd Iechyd i wneud iddo ddigwydd ymhen ychydig ddyddiau – hynod drawiadol. Diolch yn fawr iawn.
Yn ystod penwythnos olaf y cyfnod atal, rhaid i mi ofyn i chi barhau i weithredu yr un mor gyfrifol yn ein cymuned a glynu wrth y cyfyngiadau yr ydym yn eu dilyn ar hyn o bryd:
- Peidiwch â chyfarfod ag unrhyw un y tu allan i'ch cartref os gwelwch yn dda
- Gadewch eich tŷ am hanfodion fel bwyd, am resymau meddygol neu i ymarfer corff yn unig.
O Ddydd Llun bydd gwasanaethau'r Cyngor a oedd wedi'u cau dros dro yn ailagor. Mae hyn yn cynnwys Ysgolion (i bob grŵp blwyddyn), Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a Chanolfannau Hamdden. Cyhoeddwn restr lawn o wasanaethau ar wefan y Cyngor.
Hoffwn ddiolch i'r holl staff sydd wedi bod yn paratoi ar gyfer y newidiadau hyn dros y dyddiau diwethaf. Gwn fod y sefyllfa sy'n newid yn barhaus yn heriol ac rwy'n gwerthfawrogi eich holl ymdrechion i gadw'r sefydliad hwn i symud ymlaen ac addasu i'r cyfnod yr ydym yn byw ynddo.
Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Lleol yn annog awdurdodau lleol i gymryd rhan yn eu hymgyrch #GallCynghorau Ddydd Mawrth 10 Tachwedd. Fel rhan o hyn, bydd cyfres o negeseuon trydar yn cael eu rhannu i dynnu sylw at y gwaith rhagorol y mae ein staff wedi'i wneud eleni, yn ystod cyfnod digynsail. Os oes gennych enghraifft o'ch tîm yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl mewn amgylchiadau eithriadol, anfonwch ddisgrifiad byr o'u cyflawniadau a chwpwl o luniau i social@valeofglamorgan.gov.uk. Bydd ein tîm cyfathrebu yn rhannu detholiad o uchafbwyntiau o'n gwaith drwy gydol y dydd i ddathlu ehangder y gwaith a wnawn.
Unwaith eto, mae'n wych gweld gwaith ein cydweithwyr yn cael ei gydnabod am y gwahaniaeth gwirioneddol y mae'n ei wneud. Yr wythnos hon, ymwelodd S4C ag Ysgol Gwaun y Nant ac Ysgol Gynradd Oakfield i weld menter 'Big Bocs Bwyd'. Mae'r siop hon mewn cynhwysydd llongau yn darparu bwyd i deuluoedd y gall pobl 'dalu fel y gallant' amdano. Mae hon yn enghraifft wych o roi cymorth i bobl sydd wir ei angen. I weld y rhaglen, ewch i dudalen Facebook S4C. Da iawn i bawb sy'n ymwneud â menter mor wych. Llongyfarchiadau i chi gyd!
Oherwydd y sefyllfa bresennol, bydd Maer Bro Morgannwg yn cynnal gwasanaeth cofio bychan drwy wahoddiad yn unig ger Cofeb y Llynges Fasnachol yn Swyddfeydd Dinesig y Barri am 11am Ddydd Mercher, 11 Tachwedd. Eleni byddwn yn ffrydio'r gwasanaeth i osod torch yn fyw ar ein tudalen Facebook i unrhyw un sydd am ei wylio. Mae'r Lleng Brydeinig hefyd yn annog pobl i ddilyn Dydd y Cadoediad drwy ddarllediadau teledu ac i nodi’r ddau funud o ddistawrwydd yn breifat. Mae trefniadau wedi'u gwneud eleni a fydd yn caniatáu i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yng Ngwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru, yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Am y tro cyntaf, bydd y gwasanaeth ar gael i'w wylio'n fyw ar YouTube. Bydd y darllediadau'n dechrau o 10.50am ddydd Sul, 8 Tachwedd. I nodi'r achlysur ymhellach, yn y cyfnod yn arwain at 11 Tachwedd, caiff Lloches y Gorllewin a thwnnel Hood Road yn Y Barri eu goleuo’n goch, lliw'r pabi.
Gan edrych ymlaen at weld lleddfu'r cyfyngiadau o Ddydd Llun, ac yng ngoleuni’r data presennol ar y cynnydd sydyn mewn achosion ym Mro Morgannwg, rwy’n apelio arnoch i barhau i fod yn fodel rôl yn eich cymuned. Pwyslais y negeseuon sy'n cael eu rhannu gan Lywodraeth Cymru, ac y byddwn ni yn ein tro yn eu rhannu â thrigolion Bro Morgannwg, yw meddwl am yr hyn y dylech ac na ddylech ei wneud, yn hytrach na'r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud. Ein cyfrifoldeb ni yw arwain drwy esiampl wrth wneud popeth y gallwn i gyfyngu ar ledaeniad Covid-19.
Gwn ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd i bob un ohonom, a bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn her. Ond, dim ond drwy gadw at y camau syml o olchi ein dwylo mor rheolaidd â phosibl, gwisgo masg pan fo angen, a chadw pellter diogel oddi wrth unrhyw un y tu allan i'n cartrefi bob amser y gallwn gadw ein hunain a'n teuluoedd yn ddiogel.
Diolch i chi gyd am eich ymrwymiad parhaus i'n sefydliad ac i drigolion Bro Morgannwg.
Diolch yn fawr. Cadwch yn ddiogel.
Rob