MD message header

Annwyl gydweithwyr,

Fel y gwyddoch eisoes o bosibl, mae nifer yr achosion Covid-19 ym Mro Morgannwg wedi bod yn cynyddu'n gyflym dros yr wythnos ddiwethaf. Mae cyfradd yr achosion newydd nawr yn 163.2 fesul 100,000 dros y 7 diwrnod diwethaf, gyda nifer y profion positif yn 14.9%.

Mae'r ffigurau hyn ymhell dros drothwy rhybudd coch Llywodraeth Cymru ac mae'r cynnydd parhaus yn nifer yr achosion yn destun pryder gwirioneddol.  Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro wedi bod yn gweithio i nodi pa gamau ychwanegol y gellid eu cymryd i gefnogi trigolion y Fro.

Yfory (Tachwedd 5) mae uned profi symudol wedi agor yn y Barri i'w gwneud mor hawdd â phosibl i'r trigolion hynny y mae angen prawf arnynt gael gafael ar un. Mae'r cyfleuster dros dro wedi'i leoli yn yr Oriel Gelf Ganolog yn Sgwâr y Brenin a bydd yn weithredol am o leiaf saith diwrnod.

Bydd y cyfleuster yn cael ei hyrwyddo i holl drigolion y Fro. Fodd bynnag, gan fod staff y Cyngor yn cael eu cydnabod fel gweithwyr allweddol yn yr ymateb i'r pandemig, os oes angen prawf arnoch, dylech gael mynediad at hyn drwy'r porth gweithiwr allweddol a weinyddir gan ein tîm Adnoddau Dynol.

Os oes gennych unrhyw un o symptomau COVID-19 – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golli blas neu arogl – dylech siarad â'ch rheolwr llinell a all drefnu prawf i chi. Ni ddylech archebu prawf ar-lein.

Mae staff ein timau Eiddo, Dysgu a Sgiliau, Cyfreithiol, Gwasanaethau Cymdogaeth a Chyllid i gyd wedi gweithio'n gyflym iawn yr wythnos hon i gefnogi Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro i roi'r ganolfan brofi ar waith mor gyflym. Hoffwn ddiolch iddynt am eu holl ymdrechion. 

Mae defnyddio'r uned profi symudol yn un o nifer o gamau sy'n cael eu cymryd i amddiffyn trigolion y Fro rhag y pandemig. Mae Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a Bro Morgannwg wedi'i ehangu'n gyflym yn ystod yr wythnosau diwethaf i sicrhau bod ganddo'r gallu i ymdopi â niferoedd achosion cynyddol. O fewn y bartneriaeth hon, mae Cyngor Bro Morgannwg, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Caerdydd i gyd yn parhau i gydweithio gyda’i gilydd yn effeithiol iawn.

O'r wythnos nesaf ymlaen byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol eraill i sicrhau bod pob preswylydd yn deall beth mae'r rheolau newydd yn ei olygu iddo, a sut y gall fyw gyda'r feirws hwn. Rwy'n gobeithio gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl staff am y gwaith hwn yn fy niweddariad wythnosol nesaf. 

Diolch am eich cefnogaeth barhaus yn ein gwaith i amddiffyn a chefnogi trigolion y Fro. Diolch yn fawr iawn.

Rob Thomas