Staffnet+ >
Diweddariad yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog

Dydd Llun 2 Tachwedd 2020
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio i chi gael penwythnos da. Fel y clywsoch efallai, mae'r Prif Weinidog heddiw wedi nodi'r cynlluniau ar gyfer diwedd y cyfnod atal ddydd Llun 9 Tachwedd.
O ddydd Llun 9 Tachwedd bydd y canlynol yn berthnasol, i gadw Cymru'n ddiogel:
- Dylech barhau i weithio gartref lle y bo’n bosibl
- Bydd siopau a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol yn ailagor
- Bydd pob ysgol yn ailagor ar gyfer disgyblion o bob oed
- Bydd modd i 2 aelwyd ymuno â'i gilydd i ffurfio aelwyd estynedig neu 'swigen'.
- Caniateir teithio yng Nghymru, ond dim ond pan fo'r daith yn hanfodol y dylai pobl deithio. Dim ond gydag esgus rhesymol y caniateir teithio y tu allan i Gymru.
Mae'r Arweinydd a mi wedi bod yn cyfarfod â'n cymheiriaid mewn Awdurdodau Lleol eraill a'r Heddlu a chyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru dros y penwythnos i drafod diwedd y cyfnod atal, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer yr ail wythnos hon o'r cyfnod atal dros dro. Mae'n amlwg bod llawer yn dilyn y rheolau ac mae hyn yn sicr yn gwneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif bach yn gwneud hynny, a byddwn yn gweithio'n galed dros y dyddiau nesaf i weithio gyda chydweithwyr yn Heddlu De Cymru i sicrhau bod y rheolau'n cael eu gorfodi'n llym fel ein bod yn sicrhau’r effaith fwyaf posibl o’r cyfnod atal.
Yng nghyfarfod ein Tîm Arweinyddiaeth Strategol yfory, byddwn yn trafod sut y bydd y cyfyngiadau newydd yn effeithio ar wasanaethau unigol y Cyngor a'r amserlen ar gyfer ailagor y rhain. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a'n trigolion yn rheolaidd drwy Staffnet+, y cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor.
Mae'n amlwg bod y feirws yn parhau i ledaenu yn ein cymunedau. Hoffwn atgoffa pawb o bwysigrwydd hunan-ynysu os dangoswch unrhyw symptomau o’r coronafeirws, a chael prawf a pharhau i hunan-ynysu nes i ganlyniad y prawf ddod i law. Mae hyn yn golygu peidio â gadael y tŷ. Ceir rhagor o wybodaeth am y symptomau, hunan-ynysu a chael prawf ar StaffNet+.
Gwn nad yw'r mesurau hyn yn hawdd, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gofalu am ein hunain a'n gilydd. Bydd amrywiaeth o fentrau lles newydd yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y rhain yn fy negeseuon rheolaidd. Fodd bynnag gallwch gael yr holl wybodaeth hon ar StaffNet+.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi am weithio mor galed i amddiffyn ein trigolion a'n cymunedau. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, ond mae'n werth ei ailadrodd – rwy'n falch o weithio i'r sefydliad hwn a chyda chydweithwyr mor ymroddedig a chydwybodol.
Diolch am ddangos esiampl i eraill. Daliwch ati.
Rob