Yr adran Eiddo yn brwydro yn erbyn y pandemig 

Mae’r adran Eiddo wedi bod yn gweithio’n galed ar un o ffrydiau gwaith adfer allweddol y Cyngor - Cydgysylltu Adferiad i Gadw Pellter Cymdeithasol yn y Gweithle

Dydd Iau 28 Mai, 2020 

Bydd angen system ddiogel o ddychwelyd i'r gwaith, ar yr adeg briodol, a bydd yn cynnwys trefniadau priodol ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.   

Mae'r tîm Eiddo wedi bod yn gweithio ar gamau penodol sy'n ofynnol i sicrhau y glynir wrth ofynion Llywodraeth Cymru am ymbellhau cymdeithasol yn ein prif swyddfeydd ac rydym wedi bod yn adrodd ar gynnydd i CMT-Gold yn rheolaidd. Mae'r Tîm Pensaernïol wedi bod yn brysur iawn yn paratoi cynlluniau llawr ar gyfer ymbellhau cymdeithasol i’n swyddfeydd corfforaethol.   

Mae'r cynlluniau wedi cael eu llunio gan ddefnyddio pellter cymdeithasol 2m ar gyfer meddiannaeth ddesg, ond hefyd ar gyfer y gofod cylchrediad o gwmpas desgiau (er mwyn osgoi unrhyw gyswllt agos nad yw'n angenrheidiol o fewn y pellter hwnnw). 

Mae'r Tîm Eiddo hefyd wedi cynorthwyo cydweithwyr mewn Llyfrgelloedd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac adran Datblygu Economaidd drwy baratoi cynlluniau pellhau cymdeithasol ac adroddiadau arweiniad ar gyfer adeiladau gwasanaeth allweddol eraill.

safety signage

Byddai cydweithwyr sydd wedi bod mewn un o adeiladau ein prif swyddfeydd yn ddiweddar wedi sylwi ar nifer o arwyddion newydd sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn ymddangos wrth ddrysau mynedfeydd, mewn coridorau, ar ddrysau toiledau, mewn ceginau, ar risiau, mewn lifftiau ac ati. 

Mae llawer iawn o lamineiddio a gludo wedi bod yn digwydd dros yr wythnosau diwethaf er mwyn sicrhau bod yr arwyddion yn barod ar gyfer ailfeddiannu ein hadeiladau ar yr adeg briodol. 

civic offices corridors with 2m markings

Hefyd, lle bo angen, mae rhai coridorau wedi'u marcio â thâp i ddangos pellter o 2m. Nod yr arwyddion a'r tâp yw atgoffa'r staff i sicrhau eu bod yn cadw pellter cymdeithasol o 2m yn y gweithle bob amser ac i sicrhau bod y dwylo'n cael eu golchi/diheintio'n rheolaidd yn unol â'r canllawiau cyfredol. Bwriedir i'r camau hyn ategu'r cynlluniau llawr ymbellhau cymdeithasol a ddarperir.   

Bydd gwaith ychwanegol ar y derbynfeydd yn parhau i ddatblygu wrth i gynlluniau adfer gwasanaethau gael eu datblygu ac mae gennym ddarlun clir o ofynion gwasanaethau yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y ffrwd waith adfer, mae'r Is-adran Eiddo hefyd wedi cynorthwyo gyda:

  • dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol;
  • danfon 18 o gyfrifiaduron llechen i Gartrefi Gofal yn y Fro (wedi’u rhoddi’n garedig gan Admiral); ac
  • mae wedi chwarae rhan Bwnni'r Pasg eleni drwy sicrhau bod y plant yn ein Hosteli wedi cael Wyau Pasg, a roddwyd gan Admiral eto.

Mae tri aelod o'r tîm eiddo ar hyn o bryd wedi eu hadleoli i wasanaethau hanfodol (Mark Biernacki i’r Tîm Casglu Gwastraff, Penny Fuller i'r Tîm Budd-daliadau a Jennnifer Green i'r Tîm Cymorth Argyfwng).    

Roedd Lorna Cross, y rheolwr gweithredol mewn eiddo, am roi'r gydnabyddiaeth haeddiannol i'w thîm am eu gwaith caled parhaus dan bwysau aruthrol.

"Rwy'n hynod o falch o'r tîm cyfan. Mae pawb wedi dangos eu hymrwymiad i'r Cyngor drwy eu gwaith caled a'u hymroddiad i gadw ein staff mor ddiogel â phosibl pan fyddant yn dychwelyd i'r gwaith. Da iawn bawb!”

Roedd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr, hefyd yn dymuno diolch i Lorna a'i thîm am eu holl waith caled dros yr wythnosau diwethaf.

"Rwy'n credu bod yr is-adran eiddo yn haeddu cael ei chydnabod fel Arwyr yr Enfys. Weithiau gall ein staff swyddfa gefn gael eu hanwybyddu mewn sefyllfaoedd fel hyn, lle mae gwasanaethau rheng flaen ym mlaen meddyliau pobl. Yn fy marn i, mae pob un o'n staff yn haeddu cydnabyddiaeth am eu dycnwch a'u hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau, boed yn rolau rheng flaen neu'n swyddogaethau cynorthwyol.

"Rwyf wedi gweld y gwaith sydd wedi digwydd yn ein swyddfeydd fy hun ac rwy'n siŵr y bydd staff, ar ôl iddynt ddychwelyd i'r gwaith, yn gweld gwahaniaeth ac yn gwerthfawrogi mai eu diogelwch nhw oedd y rheswm dros y newidiadau hyn.  Da iawn bawb a diolch yn fawr."