O Gymorth Busnes i Gymorth Ail-alluogi

Mae Eryl Underdown, Swyddog Gwella Busnes yn yr adran Amgylchedd a Thai, wedi cael ei hadleoli i weithio gyda’r Tîm Ail-alluogi yng Ngwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yn ystod y pandemig Covid-19

Dydd Mawrth 12 Mai 2020


Mae Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro (GACyF) yn dîm integredig y Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector wedi’i leoli yn Ysbyty’r Barri.

Maent yn gweithio gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain i sicrhau’r annibyniaeth swyddogaethol orau posibl o ran gweithgareddau bywyd bob dydd, ac yn y ffordd hon lleihau’r angen am fynd i’r ysbyty a gwasanaethau gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol am dymor hwy.

Maent hefyd yn cynnig ymyraethau therapiwtig a chymorth ail-alluogi i bobl ar ôl iddynt gael eu derbyn yn yr ysbyty, fel y gallant ddychwelyd adref mor sydyn â phosibl.

Cawsom sgwrs ag Eryl yn ddiweddar i ddysgu ychydig mwy am ei rôl newydd a sut mae hi’n dod ymlaen.

Pam oeddech chi eisiau gwirfoddoli i weithio mewn  gwasanaeth arall?

Yn y sefyllfa bresennol, roeddwn i’n teimlo bod dyletswydd arnaf i gefnogi adrannau allweddol eraill yn sefydliad.

Oedd angen llawer o hyfforddiant arnoch cyn dechrau arni?

Nac oedd - roedd hyfforddiant digonol ynghyd â chwrs sefydlu a chefais gyfrifiadur a’r holl offer angenrheidiol arall. 

Sut rydych chi'n teimlo am eich rôl newydd a'r gwaith rydych chi wedi cymryd rhan ynddo?

Rwy’n teimlo’n lwcus i gael gweithio gyda gweithlu mor brysur ac ymrwymedig.  Mae’n rhoi cipolwg i chi o’r holl wasanaethau amrywiol rydyn ni fel Cyngor yn eu cynnig.

Oes unrhyw beth arall hoffech ychwanegu?

Mae Carol Haake a’i thîm cyfan wedi rhoi croeso mawr i mi a gobeithio bod fy nghyfraniad o fudd i’m cydweithwyr.

Eryl Rainbow Hero

Os hoffech wirfoddoli i weithio mewn gwasanaeth allweddol yn ystod y pandemig covid-19, ymgeisiwch ar-lein. 

Cyfleoedd Adleoli