Staffnet+ >
Dweud eich dweud - arolwg lles staff
Dweud eich dweud - arolwg lles staff
Bydd yr arolwg lles staff yn rhedeg rhwng 11 - 26 Mehefin, anogir staff i gyd i ymateb.
Dydd Iau 11 Mehefin, 2020
Un o'n prif flaenoriaethau fel Cyngor yw sicrhau bod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn y sefyllfa yr ydym i gyd ynddo ar hyn o bryd.
Nod yr Arolwg Lles COVID-19 yw i roi cyfle i chi roi adborth ar ba mor dda yr ydym ni, fel cyflogwr, yn eich cefnogi chi a'ch lles.
Y gobaith yw y bydd yr adborth hefyd yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu i lywio ein gweithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu yn y dyfodol.
Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau ar:
Er bod yr arolwg yn gofyn am eich adran, mae eich ymateb yn hollol ddienw.
Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i gynllunio'r camau y mae'n rhaid i ni cymryd i cefnogi chi ar yr adeg heriol hon.
Ymatebwch trwy glicio ar y ddolen isod.
Arolwg Staff Covid-19
Bydd dolen hefyd yn cael ei e-bostio at bob aelod o staff. I'r rhai nad oes ganddynt gyfeiriad e-bost gwaith ac nad ydynt wedi darparu cyfeiriad e-bost personol, anfonir llythyr gyda dolen i'r arolwg, y gellir ei gyrchu trwy god QR. Gellir agor y ddolen ar unrhyw ddyfais, ond dim ond y rhai sydd â dolen yr arolwg all ymateb.
Rydym yn deall mae’n amser heriol i bob un ohonom. Os ydych yn teimlo eich bod angen rhywfaint o gymorth, gweler ein tudalen Lles. Os oes angen siarad â rhywun, gallwch chi defnyddio ein gwasanaeth CareFirst drwy galw 0800 174 319, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Os oes gennych chi cwestiynnau ynglun a’r arolwg, siaradwch gyda’ch reholwr llinell yn gyntaf, neu hanfonwch e-bost i engage@valeofglamorgan.gov.uk.