Annwyl Gydweithwyr,

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog amser cinio heddiw, yr oeddwn am ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

Ddoe, cyfarfu Arweinydd y Cyngor a mi â'n cymheiriaid o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Caerdydd i drafod y sefyllfa ddifrifol iawn ym Mro Morgannwg a Chaerdydd. Mae nifer yr achosion o coronafeirws wedi codi'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â Covid-19 bellach ar y lefelau uchaf erioed ac mae Unedau Gofal Dwys yn llawnach nawr nag erioed o’r blaen yn yr ail don.

Heddiw, cyhoeddwyd y bydd Cymru gyfan yn symud yn ystod yr wythnosau nesaf i Lefel 4 newydd y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws sydd wedi'i ryddhau'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

  • O 6pm ar Noswyl Nadolig, bydd yr holl wasanaethau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos a lleoliadau eraill fel campfeydd, hefyd yn cau.
  • O 6pm ar Ddydd Nadolig, bydd pob lleoliad lletygarwch yn cau.
  • O 28 Rhagfyr, bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu rhwng aelwydydd a theithio yn dod i rym.

Mae'r trefniadau ar gyfer yr hyn a ganiateir dros y Nadolig yn fwy cymhleth. Er nad yw'r hyn y gall pobl ei wneud dan y ddeddfwriaeth wedi newid, mae'r cyngor a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi newid. Y cyngor cryf gan Lywodraeth Cymru bellach yw mai dim ond dwy aelwyd ddylai ffurfio "swigen Nadolig" ar gyfer y cyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr. Caniateir i aelwyd un person ychwanegol ymuno â'r trefniant hwn. Fodd bynnag, mae’r coronafeirws yn ffynnu ar gyswllt rhwng unigolion a chartrefi. Yn sgil hyn, terfyn yw’r hyn a ganiateir, nid targed a lle bynnag y bo modd, dylem i gyd geisio cyfyngu ein cyswllt ag eraill, o ran nifer y bobl a’r cyfnod, os byddwn yn penderfynu cymysgu ag eraill o fewn y rheolau hyn dros y Nadolig.

Rwy'n cyfarfod â Thîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor fore yfory i gytuno ar yr hyn y bydd yn ei olygu i'n gwasanaethau Cyngor, yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn y cyfnod uniongyrchol ar ôl hynny a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ddiwedd yr wythnos.

Mae'r cyhoeddiad heddiw a'r neges gennyf fi, fy nghyd-Aelodau yn y Gwasanaeth Iechyd ac eraill yn gwbl glir. Cyfrifoldeb pawb yw cymryd y bygythiad o coronafeirws o ddifrif a dilyn y canllawiau. Y camau bob dydd yr ydym i gyd yn eu cymryd all helpu i amddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid. Rhaid i bobl weithio gartref pan fo hynny’n bosibl. Yn ogystal â chadw dau fetr ar wahân, golchi dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen, mae'n bwysig gwneud y canlynol hefyd:

  • Osgoi rhannu ceir.
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo modd.
  • Osgoi rhyngweithio cymdeithasol os oes rhaid i chi ymweld â gweithle.
  • Osgoi cymdeithasu a chymysgu yng nghartrefi pobl eraill.
  • Gwneud siopa Nadolig ar eich pen eich hun.

Mae hefyd yn bwysig hunanynysu a chael prawf os cewch unrhyw symptomau a hunanynysu os yw aelod arall o'r cartref yn dangos symptomau.

Parhewch i wneud y gwaith gwych rydych wedi'i wneud drwy gydol yr amgylchiadau anoddaf a chymryd y camau angenrheidiol i gadw ein gilydd a'n cymunedau'n ddiogel.

Diolch yn fawr. Cadwch yn ddiogel.

Rob