Annwyl Gydweithwyr,


Byddem fel arfer yn ysgrifennu at yr holl staff ar ddiwedd y flwyddyn i fynegi ein diolch diffuant am eich holl waith caled. Ni fydd ein neges wythnosol olaf i chi yn 2020 yn wahanol, heblaw bod eleni wedi bod yn fwy heriol nag y gallai unrhyw un ohonom erioed fod wedi rhagweld. Mae digwyddiadau'r 10 mis diwethaf wedi dangos yn glir pa mor falch rydym ni o bopeth rydym yn ei wneud a phawb sy'n gweithio i Gyngor Bro Morgannwg. 

Doedden ni ddim yn credu y gallai neges ysgrifenedig ar ei phen ei hun fynegi pa mor ddiolchgar ydyn ni i bob un ohonoch am eich ymdrechion eleni. Felly, i'r rhai ohonoch sydd heb agor y calendr Adfent heddiw, plygiwch eich clustffonau i mewn a gwyliwch yr isod...

 

Er ein bod yn gobeithio'n fawr y caiff pob un o’n cydweithwyr beth amser i orffwys ac ymlacio dros yr wythnosau nesaf, byddai'n anghyfrifol i ni beidio â sôn am y sefyllfa bresennol yn ein cymunedau. Mae nifer yr achosion o goronafeirws yn codi'n gyflym ac mae'n rhaid i ni i gyd weithredu'n gyfrifol ac o fewn y cyfyngiadau a nodir gan Lywodraeth Cymru. 

Mae'r Nadolig yn mynd i fod yn wahanol eleni gyda llai o bobl yn gallu dathlu gyda'i gilydd, ac ry’n ni’n gwybod pa mor anodd yw hyn. Fodd bynnag, mawr obeithiwn fod golau ym mhen draw'r twnnel.  Mae brechlyn y coronafeirws yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd i'n gweithwyr rheng flaen allweddol a'n trigolion mwyaf agored i niwed. Bydd y brechiadau hyn yn helpu, ond nid ydynt yn ateb i bopeth.  Hyd yn oed os caiff pobl eu brechu, nid yw'n golygu y gall unrhyw un orffwys ar ei rwyfau, gan nad yw hyn yn golygu nad oes angen cymryd y rhagofalon arferol yn ystod y pandemig.  Felly, rydym nifer o fisoedd i ffwrdd o allu llacio'r cyfyngiadau ac felly mae'n rhaid i bob un ohonom barhau i fod yn wyliadwrus ac yn hynod o ofalus yn ein gweithgareddau. 

Bydd misoedd cyntaf 2021 yn heriol unwaith eto, ond rydym yn obeithiol y byddwn mewn sefyllfa wahanol iawn erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf ac yn gallu ymlacio a dathlu yn yr un modd ag y byddem fel arfer. 

Rydym yn siŵr y bydd y sefydliad hwn yn dod allan o'r pandemig mewn sefyllfa gref ac y bydd ein cymunedau'n adfer.  Rydym yn dweud hyn oherwydd bod gennym staff rhagorol, sy'n gweithio gydag ymroddiad ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.  Mae eleni wedi dangos gwir werth gwasanaeth cyhoeddus ac mae'r ffordd y mae'r Cyngor hwn wedi ymateb i'r argyfwng yn dystiolaeth gadarn o ansawdd a brwdfrydedd ein staff. 

Cadwch yn ddiogel dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, gofalwch amdanoch eich hunain a'ch anwyliaid. 

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon i chi.

Diolch yn fawr i chi gyd. 

Christmas-Footer-Cropped-700x240