Mae adeiladau'r cyngor yn ailagor i'r cyhoedd ar sail wedi ei rheoli 

O heddiw ymlaen, bydd preswylwyr ym Morgannwg yn gallu cyrchu rhai gwasanaethau yn adeiladau'r Cyngor os ydyn nhw wedi trefnu apwyntiad.

10 Awst 2020

Bydd gwasanaethau llyfrgell, sydd wedi bod yn gweithredu ar sail clicio a chasglu ers mis Mehefin, ar agor i aelodau'r cyhoedd gael mynediad at wasanaethau fel ardaloedd cyfrifiadurol a phori am lyfrau am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

Mae llyfrgelloedd y Barri, y Bont-faen a Llanilltud Fawr yn ailagor ar sail wedi’i rheoli heddiw.

Bydd cyfyngiadau llym ar nifer y pobl a ganiateir i’r adeiladau ar yr un pryd. 
 
Gyda diogelwch ar flaen y gad o ran cynlluniau i ailagor, mae'r canlynol ar waith:

  • Gofynnir i unrhyw un sy'n dod i mewn i'r adeilad ddefnyddio diheintydd dwylo a chwblhau cerdyn tracio ac olrhain gan roi ei enw a'i fanylion cyswllt

  • Bydd cadeiriau wedi’u symud o lyfrgelloedd fel na all pobl eistedd i lawr.

  • Bydd y tai bach ar gau i’r cyhoedd.

  • Ni fydd mod trefnu cyfarfodydd, gweithgareddau na chadw ystafelloedd.

  • Bydd staff y llyfrgell yn gweithio o’r tu ôl i sgriniau amddiffynnol wrth y ddesg ac yn gwisgo feisor ar bob adeg.

  • Caiff pob llyfr a ddychwelyd ei roi dan gwarantîn am 72 awr nes cael ei lanhau a’i ryddhau eto. 


Yn y Swyddfeydd Dinesig bydd y gwasanaethau canlynol ar agor trwy apwyntiad yn unig:

  • Cofrestryddion;

  • Budd-daliadau

  • Y Dreth Gyngor; ac

  • Arianwyr.

keep your distance sign

Yn yr un modd â llyfrgelloedd, mae mesurau diogelwch ar waith i amddiffyn staff ac aelodau'r cyhoedd.


Gofynnir i staff barhau i ddefnyddio mynedfa gefn yr adeilad. Efallai y bydd rhai aelodau o'r cyhoedd yn ciwio am apwyntiad, bydd aelod o staff o'r tîm perthnasol yn eu casglu.


Cofiwch gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr bob amser. Gofynnir i unrhyw un sy'n mynychu apwyntiad yn y swyddfeydd Dinesig wisgo mwgwd, glanhau eu dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad a darparu manylion cyswllt ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu.