Staffnet+ >
Egnïol ac yn yr Awyr Agored - sesiynau gweithgarwch corfforol am ddim i staff
Egnïol ac yn yr Awyr Agored - sesiynau gweithgarwch corfforol am ddim i staff
Mae'r Tîm Byw'n Iach (Datblygu Chwaraeon a Chwarae ac Atgyfeiriadau Ymarfer Corff) wedi trefnu sesiynau cylched yn yr awyr agored am ddim i staff.

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyfuniad o gerdded ac ymarferion hyfforddi er mwyn magu cryfder. Maen nhw'n ddelfrydol i'r rhai sydd ond yn gwneud ychydig o weithgarwch ar hyn o bryd ac y mae'n well ganddynt wneud pethau yn ôl eu pwysau eu hunain.
- Gerddi Isaf Gladstone, Buttrills Road, y Barri (rhwng y Neuadd Goffa a Gerddi Gladstone - ger y Swyddfeydd Dinesig).
- Bob dydd Mawrth (yn dechrau o 04 Awst) 12.30pm - 13.00pm.
I gadw lle, e-bostiwch:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Shepherd, Swyddog Byw'n Iach:
Oherwydd Canllawiau'r Llywodraeth ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly cofiwch gadw lle ymlaen llaw.
Os nad ydych yn gallu mynychu'r sesiynau, ond bod gennych ddiddordeb o hyd mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dyfodol, rhowch wybod i'r tîm. Gallwch hefyd edrych ar sesiynau ar-lein y Tîm Atgyfeiriadau Ymarfer Corff: