Arwyr Enfys y Fro
Er mwyn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein staff yn ystod y pandemig covid-19, mae'r Cyngor wedi penderfynu talu teyrnged i'n #ArwyrEnfysyFro
Dydd Gwener 1 Mai, 2020
Mae cyfres o arwyddion yn diolch i weithwyr rheng flaen wedi cael eu rhoi ar gylchfannau ar safleoedd allweddol ym Mro Morgannwg heddiw.
Mae'r arwyddion yn cynnwys y timau canlynol:
- gweithwyr gofal;
- criwiau gwastraff;
- tîm Cyfarpar Diogelu Personol (PPE);
- Cyswllt Un Fro a’r tîm Cymorth mewn Argyfwng;
- staff ysgolion hwb; a
- thimau cartrefi gofal.
Yn ogystal â'r arwyddion ffyrdd newydd rydym wedi bod yn rhannu rhai ystadegau ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi cipolwg bach ar yr ymdrech enfawr y mae pob un o'r timau hyn wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf.
Mae'r holl ymateb i’r postiadau hyn (hoffi ac ail-drydaru) yn dangos cymaint y mae trigolion yn gwerthfawrogi gwaith y cyngor a’r timau yma.

Dywedodd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr:
"Roedden ni am ddefnyddio arwyddion ffyrdd i ddiolch i'r timau hyn am nifer o resymau. I gydnabod eu gwaith caled yn ystod yr argyfwng hwn, er mwyn dangos gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnânt ac i dynnu sylw'r cyhoedd at yr hyn y gall y term 'gweithiwr allweddol' ei olygu a'r amrywiaeth o wasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu y mae preswylwyr yn dibynnu arnynt.
"Rydym yn gobeithio y bydd ein staff yn gweld yr arwyddion hyn wrth iddynt fynd ati i wneud eu gwaith hanfodol ac mae'n dangos cymaint yr ydym yn eu gwerthfawrogi."