I reoli eich hysbysiadau yn effeithiol rydym yn awgrymu'r canlynol.
Peidiwch â gweithredu unrhyw geisiadau o fewn yr hysbysiad E-bost ei hun, gan nad yw hyn yn cydymffurfio â'n Rheoliadau Ariannol.
Yn hytrach, mewngofnodwch i Fusion a chliciwch ar eich Rhestr Cloch (cornel dde uchaf y dudalen) ac yna cliciwch 'Dewis'.
Bydd hyn yn dangos eich hysbysiadau i gyd.
Bydd angen "Gweithredu" ar rai o'r rhain ac mae rhai yn "Er Gwybodaeth" yn unig.
Yn y Blwch Chwilio sy'n agor rhowch "Action Required" neu “Angen Gweithredu” Bydd y canlyniadau hyn yn dangos unrhyw Gamau Gweithredu mae angen i chi eu cwblhau.
Gallwch hefyd chwilio am "FYI" (er gwybodaeth). Mae'r hysbysiadau hyn er gwybodaeth yn unig.
Gallwch glirio'r hysbysiadau hyn o bryd i’w gilydd drwy ddefnyddio'r botwm 'Dismiss all'.