Ysgolion
Nid yw ein hysbysiad cydymffurfio Safonau'r Gymraeg yn berthnasol i'n hysgolion. O'r herwydd, nid yw ysgolion o dan yr un gofynion pan ddaw i gyfieithu. Nid oes angen i gylchlythyrau, llythyrau, testunau, a chyfathrebiadau eraill i rieni fod yn ddwyieithog nac yn Gymraeg. Mae'n amlwg bod yn well gan ysgolion cyfrwng Cymraeg anfon cyfathrebiadau yn ddwyieithog neu yn Gymraeg serch hynny!
Ar gyfer y rhan fwyaf o gyfieithiadau mewnol mewn ysgolion, dylech ddefnyddio eich staff sy'n siarad Cymraeg neu adnoddau sydd ar gael gan CSC a Hwb.
Ar gyfer hysbysebion swyddi a chyfathrebiadau sy'n dod o'r Cyngor yn hytrach nag ysgolion unigol (ee, derbyniadau, dyddiadau tymor, ceisiadau llywodraethwyr), bydd Dysgu a Sgiliau yn trin cyfieithiadau o safbwynt corfforaethol.
Am achosion eraill, cysylltwch â'r Swyddog Cymraeg a Chynhwysiant gyda manylion eich cais am gyfieithu: beth ydyw, beth yw pwrpas, a pham y mae ei angen.