Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg (CSCA) 2022-2032
Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn esbonio ein cynllun deng mlynedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yn y Fro.
Mae gan y CSCA saith deilliant sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru.
- Deilliant 1: Mwy o blant meithrin/plant tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn/plant pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i'r nesaf.
- Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau a asesir yn Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.
- Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â'r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
- Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae partneriaid ar draws y Cyngor ynghyd ag ysgolion a sefydliadau allanol yn cydweithio i gyflawni'r camau sy'n ymwneud â'r deilliannau hyn.
Dysgwch fwy am y CSCA:
You can view our WESP here.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am addysg cyfrwng Cymraeg neu'r CSCA, cysylltwch â'r Swyddog Addysg Gymraeg, Jeremy Morgan.