
Mae llawer o gyrsiau byr ar-lein a chyrsiau penodol i'r diwydiant ar gael gyda Dysgu Cymraeg y Fro.
Gallwch ddechrau dysgu Cymraeg drwy ddilyn y cyrsiau ar-lein hyn. Mae'r cyrsiau'n cyflwyno geiriau ac ymadroddion bob dydd ac maent ar gael i bawb, am ddim. Mae rhai cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, megis Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
I ddechrau arni, bydd angen i chi fewngofnodi neu greu cyfrif — dim ond ychydig eiliadau y mae'n cymryd (dewiswch 'Arall' yn y gwymplen wrth i chi greu eich cyfrif).