Cefnogi'r fenter Urddas Mislif!
Rydym wedi bod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni menter Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, gan sicrhau y gall pob dysgwr yn y sir gael cynnyrch mislif am ddim.
Wrth ei gwraidd, mae'r fenter yn ceisio herio'r stigma a'r tabŵ sy’n ymwneud â mislif. Drwy annog mwy o sgyrsiau, bydd disgyblion yn deall mislif yn well yn ogystal â beth sy'n normal a ble i gael help.
Gall disgyblion ofyn am gynnyrch mislif am ddim, sy'n cael eu rhoi iddynt mewn ffordd ymarferol ac urddasol. Er bod y cynllun yn agored i bawb, canolbwyntiwyd yn benodol ar ei hyrwyddo i aelwydydd incwm is a myfyrwyr sy'n agored i niwed.
Yn ogystal â rhoi'r cynhyrchion, mae ein swyddogion wedi rhoi cymorth parhaus i ysgolion i godi ymwybyddiaeth ac i’w helpu i ddeall eu rôl wrth gefnogi disgyblion. Cynhaliodd y swyddogion archwiliad hefyd i fesur mynediad cyfredol at y cynhyrchion a lle y gellid gwella'r gwasanaeth.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Rethink Periods i gynnig hyfforddiant i staff addysgu ynghylch lleihau plastig mewn cynnyrch a herio tabŵs ynghylch mislif.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod o leiaf 50% o'r arian yn cael ei wario ar gynnyrch ecogyfeillgar, ac felly bu pwyslais ar hyrwyddo cynhyrchion amldro lle bo hynny'n bosibl.Mae ein swyddogion bellach yn datblygu partneriaethau ym mhob rhan o’r awdurdod i gynnig cynnyrch i bob defnyddiwr gwasanaeth, er enghraifft gyda'r gwasanaeth llyfrgell, y gwasanaeth ieuenctid a thai - gan gynnwys hosteli, ffoaduriaid a thai cymorth.
Mae hyn hefyd wedi'i ymestyn i sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys banciau bwyd a chanolfannau teulu.Gall disgyblion gael cynnyrch mislif am ddim drwy visiting the Council's website neu e-bostio perioddignity@valeofglamorgan.gov.uk
Bydd angen iddynt roi eu henw, eu hysgol, eu grŵp blwyddyn a'u cyfeiriad er mwyn sicrhau y gallwn ymateb cyn gynted â phosibl. I gael mwy o wybodaeth:
Mark Davies – Rheolwr Atal a Phartneriaeth MDDavies@valeofglamorgan.gov.uk
Lisa Lewis – Rheolwr Gweithredol Strategaeth ac Adnoddau LLewis@valeofglamorgan.gov.uk