Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Faer Bro Morgannwg

Yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elisabeth II, mae’r Cynghorydd Susan Lloyd Selby, Maer Bro Morgannwg, wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol.

 

  • Dydd Iau, 08 Mis Medi 2022

    Bro Morgannwg



Queen Elizabeth II“Gyda thristwch mawr y mae Cyngor Bro Morgannwg heddiw yn nodi marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elisabeth II. 

 

“Mae’r holl faneri yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri yn hedfan ar hanner mast.

 

“Mae llyfrau cydymdeimlo ar gael i’r cyhoedd yn y Swyddfeydd Dinesig a Swyddfeydd y Dociau yn y Barri a Depo’r Alpau yng Ngwenfô. Bydd y rhain ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn cau am 4pm ar y diwrnod ar ôl yr angladd.

 

"Mae llyfr cydymdeimlo ar-lein ar gael ar wefan y Cyngor.

 

“Mae llyfrau cydymdeimlo hefyd ar gael ym mhedair swyddfa cynghorau tref y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth.

 

“Mae’r holl ymrwymiadau dinesig a oedd wedi’u trefnu dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf hefyd wedi’u canslo allan o barch. 

 

Llyfr cydymdeimlo ar-lein