Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn dechrau proses o bennu’r gyllideb

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau ei broses o bennu cyllideb 2023/24.

 

  • Dydd Gwener, 30 Mis Medi 2022

    Bro Morgannwg



Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau ei broses o bennu cyllideb 2023/24.

 

Yn cael ei llunio'n flynyddol, mae'r gyllideb yn dangos incwm a gwariant yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Er bod y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru heb ei gadarnhau eto, bydd hyd yn oed yr amcangyfrif mwyaf optimistaidd yn gadael y Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd ar sut i ariannu lefel eithriadol o bwysau cost.

 

Mae adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yr wythnos nesaf yn dangos y diffyg sylweddol rhwng arian a ragwelir i ddod i mewn a'r ffigwr sydd ei angen i gynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol ac ymateb i anghenion newydd.

 

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r mater hwn, sef un sy'n wynebu Awdurdodau, busnesau ac unigolion ledled y Wlad.

 

Mae amgylchedd economaidd anwadal sydd wedi gweld prisiau ynni'n saethu i fyny ochr yn ochr â chynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chyfraddau llog wedi cael effaith fawr ar sefyllfa ariannol y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: 

"Mae'r hinsawdd economaidd sydd ohoni yn eithriadol o galed i bawb, ac nid yw'r Cyngor yn eithriad. Mae ein sefyllfa ariannol yn gwbl ddigynsail wrth i ni geisio goresgyn diffyg ariannol sylweddol. Nid ydym erioed o'r blaen wedi bod mewn sefyllfa mor heriol.

 

"Bydd y broses o bennu’r gyllideb yn gofyn am ddewisiadau anodd ac o bosib annymunol i'w gwneud. Rydw i eisiau bod yn agored ac yn onest gyda thrigolion ynglŷn â hynny.

 

"Fodd bynnag, byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o oresgyn yr heriau hyn a bydd barn y gymuned yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

"O'r pwys mwyaf yw amddiffyn y gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnyn nhw.

 

"Mae'n bosib y bydd darparu gofal cymdeithasol a phrydau ysgol am ddim yn dod am bris, ond byddai cost cael gwared ar y gwasanaethau hyn yn drychinebus." 

Pan gaiff cynigion cyllideb eu hystyried gan y Cabinet, byddant yn mynd gerbron y Pwyllgorau Craffu a thrwy ymgynghoriad cyhoeddus cyn cael eu cwblhau yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mawrth.