Cost of Living Support Icon

 

Mae Rhaglen Gweithgareddau'r Pasg yn ôl ar gyfer 2022

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llunio rhaglen o weithgareddau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y Fro dros gyfnod y Pasg.

 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Ebrill 2022

    Bro Morgannwg



Ar ôl ei llwyddiant ysgubol yn y blynyddoedd diwethaf, mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol i greu Rhaglen Gweithgareddau’r Pasg llawn gweithdai a gwersi cyffrous drwy gydol mis Ebrill 2022.


Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gweithdai crefft, helfeydd wyau, gwersi nofio a llwybrau natur ac mae'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oed.


Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig gweithgareddau cynhwysol i blant ag anghenion ychwanegol, megis sesiynau pêl-droed cadair bŵer.


Gallwch weld y rhaglen ar wefan Bro Morgannwg: 
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/GweithgareddauPasg


Mae GGiD hefyd wedi llunio rhestr o feithrinfeydd dydd, clybiau gwyliau a gwarchodwyr plant o amgylch y Fro i helpu teuluoedd sydd angen gofal plant dros wyliau'r ysgol.

 

Dywedodd Becky Wickett, Cydlynydd Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol: "Rydym wrth ein bodd o weld bod cymaint o sefydliadau yn cynnig gweithgareddau a dosbarthiadau i blant o bob oed eu mwynhau yn y Fro.

 

"Rydym yn gobeithio, drwy greu 'rhaglen gweithgareddau’r Pasg' gyda’r gweithgareddau hyn, y byddwn yn helpu teuluoedd yn y Fro i ddod o hyd i ffyrdd hwyliog o dreulio gwyliau'r Pasg."