Cost of Living Support Icon

Y Fasnach mewn Pobl

Mae’r Fasnach mewn Pobl yn drosedd ddifrifol tu hwnt. Caiff unigolyn ei fasnachu os caiff ei gludo i wlad (neu ei symud o gwmpas) gan bobl sy’n ei fygwth, yn peri ofn iddo neu’n ei orfodi i weithio neu wneud pethau eraill yn erbyn ei ewyllys.

 

Mae gennych hawliau. Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n ofnus, yn ddi-bŵer neu’n unig, mae help ar gael i chi, ac mae gennych hawliau a dewisiadau i’w gwneud.

 

 

Mae’r daflen hon ar gael mewn nifer o ieithoedd. I ofyn am gopi, cysylltwch â:

  

Eich Hawliau:

  • Yr hawl i gymorth emosiynol ac ymarferol diduedd.
  • Yr hawl i gael eich diogelu: mae masnachu mewn pobl yn drosedd. Os ydych chi’n hysbysu’r heddlu amdano, mae’n ddyletswydd arnyn nhw i’ch helpu chi. 
  • Yr hawl i gyngor cyfreithiol diduedd at ddibenion mewnfudo.

Hawliau pellach

Os cydnabyddir eich bod wedi dioddef achos y fasnach mewn pobl, mae gennych hawl i’r isod:

  • Help ac amddiffyniad gan Lywodraeth y DU a sefydliadau eraill (gelwir hwn yr Atgyfeiriad Cenedlaethol).
  • Mecanwaith: gall hyn gynnwys rhoi amser i chi ystyried eich dewisiadau heb fod ag ofn cael eich hel o’r wlad, dod o hyd i rywle diogel i chi fyw, rhywun i siarad â nhw, eich helpu i weld meddyg, cyfreithiwr neu bobl eraill allai eich helpu.
  • Help ac amddiffyniad unwaith rydych chi’n hysbysu’r heddlu o’ch profiad: i gael eich diweddaru ar yr hyn sy’n digwydd i’ch achos, a derbyn cymorth drwy gydol y broses gyfiawnder troseddol yn achos y sawl sy’n gyfrifol am y drosedd, megis yr heddlu a’r llysoedd barn.

 

Os nad ydych chi’n dymuno cysylltu â’r heddlu, yr adran fewnfudo na mynd drwy system yr Atgyfeiriad Cenedlaethol, mae gennych hawl i droi at sefydliadau gwirfoddol am help. 

 

Caiff pobl sydd wedi dioddef o fewn y fasnach eu hannog i ddefnyddio mecanwaith yr Atgyfeiriad Cenedlaethol a hysbysu’r heddlu o’r drosedd, er mwyn dod â masnachwyr o flaen eu gwell ac atal y masnachu yn y dyfodol.

 

Byddin yr Iachawdwriaeth

  • 0300 3038151

Llinell Gymorth UK Victim

  • 0845 303 0900

Cynllun y Pabi

  • 020 7735 2062 

 

Llinell Gymorth Mewnfudwyr

  • 07766 668781 

Cynllun TARA

  • 0141 276 7724/7729