Cost of Living Support Icon

Cam-drin domestig

Bydd 1 o bob 4 menyw yng Nghymru a Lloegr yn dioddef cam-drin domestig yn eu bywydau. Gall cam-drin domestig ddigwydd ni waeth beth fo rhywedd, rhywioldeb, dosbarth, oedran, hil, crefydd neu ffordd o fyw.

 

Mae Llywodraeth y DU yn diffinio trais a cham-drin fel

“unrhyw ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau o reoli, gorfodi, ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng y rhai sy'n hŷn na 16 sydd yn, neu sydd wedi bod yn, bartneriaid neu aelodau teulu agos ni waeth beth fo’u rhywedd neu rywioldeb.”

Fel arfer mae cam-drin domestig yn ymwneud ag awydd person i reoli ei bartner, ond gall aelodau teulu neu rywun y mae person wedi cael perthynas agos â nhw gam-drin hefyd.


Gall y mathau o gam-drin domestig gynnwys y canlynol ond nid ydynt wedi’u cyfyngu iddynt:

  • Seicolegol
  • Corfforol
  • Rhywiol
  • Ariannol
  • Emosiynol

 
Gallwch hefyd fynd i wefan Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru neu wefan y Llywodraeth i ddysgu mwy am y mathau o gam-drin domestig.

 

Adrodd Cam-drin yn y Cartref

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun mewn perygl ar hyn o bryd, mae angen i chi ymateb yn syth. Ffoniwch 999 a dweud wrth dderbynnydd yr alwad beth sy’n digwydd.

 

Os ydych chi’n cael eich cam-drin, neu’n credu bod rhywun arall yn dioddef, rhaid i ddweud wrth rywun. Os nad ydych chi’n dymuno siarad â’r gwasanaethau cymdeithasol, dywedwch wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo a gofyn iddo drosglwyddo’r wybodaeth. Gallech siarad â ffrind neu berthynas, meddyg neu nyrs, neu unrhyw un arall sydd mewn awdurdod. 

 

Os ydych chi’n cael eich cam-drin neu’n credu bod rhywun arall yn dioddef, ffoniwch y Tîm Gwarchod Oedolion ar: 

  • 029 2233 0888

 

Y tu hwnt i oriau swyddfa, ffoniwch y swyddog dyletswydd brys ar: 

  • 029 2078 8570

Tai

Gallwn drafod eich dewisiadau tai â chi. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i rywle diogel i aros ynddo yn ogystal â’ch helpu i gynllunio ar gyfer y tymor hir. Cysylltwch â ni a byddwn yn asesu eich sefyllfa a gwneud ein gorau i fodloni eich anghenion. Gall y cymorth rydym yn ei gynnig gynnwys:

  • Sicrhau’r eiddo a chyngor ar ddiogelwch personol
  • Asesu risg a chynllunio diogelwch
  • Help gyda phroblem tenantiaeth, e.e. ôl-ddyledion, cwynion cymdogion
  • Cymorth wrth i chi setlo yn eich cartref
  • Rhywun i ddod i apwyntiadau â chi, e.e. cyfreithwyr, yr heddlu, y meddyg
  • Cymorth gyda materion cyfiawnder troseddol, dewisiadau tai, atgyfeiriadau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cymorth gyda dyled a materion ariannol
  • Cymorth i gael defnyddio gwasanaethau cwnsela a gweithdai i hybu hyder a hunan-barch
  • Cysylltu ag asiantaethau priodol eraill a chyfeirio atynt
  • 01446 700111


Os ydych yn denant cymdeithas tai, gallwch gysylltu â'n swyddfa tai

 

'Mae Yn Ein Dwylo Ni' - Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2018-2023

Mae partneriaid rhanbarth Caerdydd a Bro Morgannwg wedi creu strategaeth gyda'r gweledigaeth:


'Mae gan bobl sy’n byw, yn gweithio, ynastudio ac yn ymweld â Chaerdydd a Bro Morgannwg y cyfle i fyw bywydau cadarnhaol ac annibynnol heb gael eu heffeithio gan drais a cham-driniaeth.'

 

Mae’r adroddiad cynnydd ar y cynllun gweithredu ar gyfer 2019/20 yn amlinellu’r ail flwyddyn gweithredu Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod,Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Caerdydd a Bro Morgannwg 2018-2023.

 

Datblygwyd y cynllun gweithredu gan bob partner sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Strategaeth a defnyddir yr un ymagwedd partneriaeth i sicrhau bod gweithgareddau’r cynllun gweithredu’n cael eu cyflawni.

 

 

Adroddiad Cynnydd 2020-21

 

Atal y Fro

Cymorth cyfrinachol, yn rhad ac am ddim: gwybodaeth, cefnogaeth, estyn, addysgu a llety argyfwng i fenywod a’u plant.

 

222 Heol Holton

Y Barri

CF63 4HS

 

 

Dewis Cymru Logo WelshDewis Cymru

Derbyn gwybodaeth am gymorth yn achos cam-drin yn y cartref ym Mro Morgannwg.  

 

Dewis Cymru