Cost of Living Support Icon

Hyfforddiant ar gyfer Amddiffyn Oedolion

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig hyfforddiant arbenigol mewn Amddiffyn Oedolion i bob aelod o staff, yn enwedig y rhai sy’n dod i gysylltiad ag oedolion sy’n agored i niwed fel rhan o’u swydd a phobl sy’n gofalu amdanyn nhw.

 

Mae’r hyfforddiant, a gynigir ar dair lefel, yn helpu staff sy’n gwneud gwahanol fathau o swyddi i ddeall pa mor bwysig yw eu rôl mewn perthynas â rhoi’r Weithdrefn Dros Dro ar gyfer Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed 2010 ar waith.

 

Mae dogfen ganllaw polisi Llywodraeth Cymru, 'In Safe Hands', yn datgan: 'Mae'n ddyletswydd ar bob dinesydd, nid staff cyflogedig yn unig, i adrodd unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am achosion o ofal anaddas neu gamdriniaeth, neu gamdriniaeth posibl neu ofal anaddas posibl yn achos oedolyn bregus.'

 

Lefel 1 (cwrs hanner diwrnod)

Ar gyfer staff sy’n debygol o ddod i gysylltiad ag oedolion sy’n agored i niwed ond nad ydynt yn gyfrifol am ofalu amdanynt e.e. staff domestig ac arlwyo, staff gweinyddol ayb

Lefel 2 (cwrs undydd)

Ar gyfer staff sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith o ofalu am gleientiaid a/neu gyflwyno gwasanaethau e.e. gweithwyr cymorth, gofalwyr yn y cartref, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion tai, cynorthwywyr canolfannau hamdden, staff rheng flaen ayb.

 

Quarterly Refresher courses are held to keep staff up to date of developments in safeguarding adults and acts as a reminder about roles and responsibilities.

 

Gathering Information for Adult Protection Concerns is mandatory for all social workers and social care officers

 

Bespoke courses are arranged at various levels to meet identified requirements or learning needs.