Mis Hanes LHDT+

Mae’n bosib y gwelsoch erthygl ychydig wythnosau yn ôl yn esbonio taw mis Chwefror yw Mis Hanes LHDT+. Gallwch ddarllen yr erthygl hon ar Staffnet+ yma.
Y thema eleni yw #BeyondTheLens. Mae hyn yn dathlu cyfraniad pobl LHDT+ at sinema, teledu, a ffilm o’r tu ôl i'r lens - fel cyfarwyddwyr, sgriptwyr, cynhyrchwyr, cyfansoddwyr, a sinematograffwyr.

Mae ‘na rai gwneuthurwyr ffilm, cyfarwyddwyr, awduron, cerddorion a dylunwyr dylanwadol iawn o'r ganrif ddiwethaf. Dyma olwg agosach ar rai o’r bobl LHDTC+ #behindthelens sy'n dal i fod yn byw a gweithio heddiw:
- Mae Gus Van Sant yn gyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, a cherddor arloesol o America. Mae’n cael ei ystyried yn eicon o’r mudiad New Queer Cinema. Mae ei ffilmiau'n cynnwys clasuron fel Good Will Hunting a Milk, sydd wedi ennill Oscars, a rhai indi fel Drugstore Cowboy ac Elephant.
- Mae Cheryl Dunye hefyd yn cael ei hystyried yn ffigwr pwysig o’r mudiad New Queer Cinema. Ei ffilm The Watermelon Woman, y mae hi hefyd yn serennu ynddi, yw’r ffilm nodwedd gyntaf i gael ei chyfarwyddo gan fenyw lesbiaidd ddu.
- Mae Ryan Murphy wedi’i ganmol am sicrhau newid mewn storïa ar y teledu i ganolbwyntio ar fwy o gymeriadau LHDTC+ trwy gyfresi y mae wedi'u hysgrifennu a'u cyfarwyddo fel The Politician, Glee, Pose, ac American Horror Story.
- Mae’r chwiorydd Wachowski, Lana a Lilly, ill dwy’n fenywod traws. Nhw yw'r gwneuthurwyr ffilmiau sy'n gyfrifol am y drioleg Matrix.
- Wrth edrych yn agosach at adref, mae Pratibha Parmar yn awdur a gwneuthurwr ffilmiau Prydeinig. Mae ei gweithiau wedi edrych ar weithredu ffeministaidd, anffurfio organau cenhedlu benywod, a'r sîn lesbiaidd a hoyw yn Ne Asia. Mae Shamim Sarif yn awdur a gwneuthurwr ffilmiau lesbiaidd Prydeinig arall, sydd hefyd yn canolbwyntio ar y themâu ffeministiaeth, effaith gymdeithasol, a dyneiddiaeth.
- Yn agosach fyth at adref, mae Russell T Davies yn Gymro o sgriptiwr a chynhyrchydd teledu y mae ei waith yn cynnwys Queer as Folk, It’s a Sin, a Doctor Who.
Fel rhan o Fis Hanes LHDT+, rydym yn eich annog i edrych y tu ôl i'r lens a dysgu mwy am y nifer fawr o wneuthurwyr ffilmiau, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr etc LHDT+ sy'n gweithio heddiw i adrodd straeon LHDT+. Edrychwch ar y rhyngrwyd – mae llawer o restrau ac erthyglau i'ch rhoi ar ben ffordd. Mae gan IMDB restr eang o 36 o gyfarwyddwyr LHDTC+ nodedig – gallwch weld y rhestr honno yma. Trwy glicio ar enw'r cyfarwyddwr, gallwch weld ei ffilmiau – beth am wylio rhywbeth newydd y mis hwn?
Mae Far Out Magazine yn rhestru 15 o wneuthurwyr ffilmiau LHDTC+. Am fwy o wybodaeth am y gwneuthurwyr ffilmiau hyn ac i weld clipiau byr, ewch i 15 brilliant LGBTQ+ filmmakers you need to know (faroutmagazine.co.uk).Mae llawer o restrau ar Wicipedia hefyd.
Mae Mis Hanes LHDT+ hefyd yn adeg wych i wylio ffilmiau, rhaglenni dogfen a rhaglenni teledu sy'n cynnwys straeon ac actorion LHDTC+. Am rai awgrymiadau, cymerwch olwg ar y rhestr hon gan The Big Issue neu am raglenni dogfen, y rhestr hon gan Rotten Tomatoes. Mae rhai rhaglenni dogfen diweddar yn y DU yn cynnwys "Tom Daley: Illegal To Be Me” a “Transgender Kids” Louis Theroux. Am sioeau teledu, mae gan BBC iPlayer adran bwrpasol, LGBT+ Stories, sydd ar gael yma neu bwrwch olwg dros y rhestr hon gan gaytimes.co.uk. Beth am gael parti gwylio gyda ffrindiau neu drafod sioeau, rhaglenni dogfen, neu ffilmiau eraill rydych chi wedi'u gweld? Fy argymhellion personol fyddai Heartstopper (Netflix) ac It's A Sin (Channel 4) fel rhaglenni teledu, neu’r ffilmiau Pride, Everybody's Talking About Jamie, a Boys Don't Cry.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i LGBT+ History Month - LGBT+ History Month (lgbtplushistorymonth.co.uk)