Wellbeing Jigsaw PiecesAwgrymiadau Iechyd a Lles

Digwyddiadau, gweithgareddau a syniadau i helpu i ofalu am eich iechyd a'ch lles. 

Mae ein Hyrwyddwyr Lles wedi cynnig rhestr o weithgareddau y gallech eu gwneud gartref trwy Teams gyda chydweithwyr yn ystod y dydd, yn ystod eich cyfarfod tîm neu hyd yn oed yn ystod amser cinio.

Sesiynau Lles Cymunedol

The Dwelling Place - "Lle mae'n iawn i beidio bod yn iawn"

Ble: Caffi lles yn Llyfrgell a Chanolfan Weithgareddau Dinas Powys, CF64 4QU.  Cynhelir gan Eglwys Bedyddwyr Dinas Powys.  

Pryd: Dydd Iau, 10am - 12pm.

Ebostiwch dpbapchurch@gmail.com am fwy o wybodaeth.

  • Gofod lle rydych yn cael eich adnabod wrth eich enw

  • Lle tebyg i gaffi lle mae croeso i bawb

  • Lle i berthyn a chysylltu

  • Lle i weddi a myfyrdod tawel

  • Gofod lle mae pawb yn gyfartal ac yn cael eu gwerthfawrogi

  • Gweithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned leol

  • Coffi gwych!

  • Diddordebau tebyg a gweithgareddau

  • Gallwch ymuno yn y gweithgareddau neu ddod draw i ymlacio - dim pwysau!

  • Dewch draw i ymlacio a chael sgwrs

 

Lles yn eich Llyfrgell Leol

Lles yn eich Llyfrgell Leol

Garddio

Nid yn unig y mae gerddi'n wych i'r amgylchedd ac i fywyd gwyllt, maent hefyd yn dda i'n hiechyd a'n lles.

Dysgwch sut y gall garddio helpu i wella eich iechyd a'ch lles ar wefan RHS:

RHS.org.uk - - Pam mae garddio’n gwneud i ni deimlo’n wellr

Cerdded a Chlonc 

Os ydych chi’n gallu gwneud hynny, gallech drefnu taith gerdded a chlonc amser cinio (gan gadw pellter cymdeithasol) gyda chydweithiwr, ffrindiau neu deulu er mwyn mwynhau bach o amser yn yr awyr agored. 

Cerdded a Chlonc   Teithiau Cerdded Llwybr Arfordir Cymru   Teithiau Cerdded sy'n Dda i Gŵn    Taith Gerdded Cerddwyr Penarth   Teithiau Cerdded Menywod y Barri a Phenarth

Pobi

Mae astudiaethau'n dangos bod pobi'n gwella hwyliau, bod ganddo lawer o rinweddau therapiwtig ac y gall helpu i leddfu straen. Ddim yn siŵr beth i'w bobi? Dyma rysáit syml ar gyfer cwcis â darnau siocled:

 


Gallwch hefyd bobi’n rhan o her ‘Bake for Mental Health’ Rethink.org:

Her ‘Bake for Mental Health’