Lles, Gwydnwch a Myfyrio: Gweminar gymorth ar gyfer holl staff cyngor Bro Morgannwg
Cyflwynir gan Dr Coral Harper, Ysgolion sy'n Deall Trawma, Cyfarwyddwr Hyfforddiant yng Nghymru
Mae'r recordiad gweminar 50 munud hwn wedi'i anelu fel canllaw er mwyn i staff ddechrau myfyrio, prosesu ac adfer o'u profiadau eu hunain dros y 22 mis diwethaf ac ymdopi â'r ansicrwydd a'r colledion parhaus sy'n gysylltiedig â'r pandemig.
Yn y weminar hon byddwn yn edrych ar ddeall effaith y pandemig i chi. A ydych wedi oedi i ystyried pa mor fawr yw'r argyfwng hwn? Cyfyngiadau, colledion, rheolau a throseddu ymddygiadau cymdeithasol?

Y frwydr gyda rhethreg 'Rydym i gyd yn hyn gyda'n gilydd' wrth i bob un ohonom frwydro'n unigol i wneud synnwyr, llywio a cherfio ein ffordd ein hunain drwodd? A ydych wedi cymryd amser i siarad, myfyrio, prosesu a threulio'r profiadau sydd wedi bod ar adegau'n gwbl ddiymwad?
I werthfawrogi ac edrych yn ôl ar yr hyn yr ydych wedi'i gyflawni, pa mor dda yr ydych nid yn unig wedi goroesi, ond wedi cefnogi eraill drwy'r profiad hwn.
Yn y weminar hon hefyd, hoffwn eich annog i ddathlu a chydnabod y newidiadau a'r addasiadau wrth i ni symud i'r hyn sydd am y tro, yn ymddangos yn gyfnod o ddatgloi, codi, ac o orwel newydd o obeithion wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau.
Ac yn olaf, rhai awgrymiadau ar gyfer adfer – yr hyn y gallwn ei wneud i helpu ein hunain a'n gilydd. Adeiladu cynllun hunanofal amddiffynnol a nodi rhai camau syml a all wella ein lles emosiynol.
Os edrychir ar y weminar hon yn unigol, rydym yn argymell trafod y cynnwys gyda chydweithwyr neu reolwyr i helpu gyda chymorth ar y cyd. Neu gellir ei ystyried fel grŵp staff i hwyluso cyd-gefnogaeth, trafodaeth a myfyrio. Os oes angen cymorth pellach, mae gwasanaethau cymorth ar gael.
Mae'r Weminar Lles, Cydnerthedd a Myfyrio ar gael i'r holl staff tan 31 Rhagfyr 2022.
Gallwch gael mynediad i'r weminar ar ba adeg bynnag sydd orau i chi, naill ai yn ystod neu y tu allan i'r gwaith. Bydd angen i chi ddefnyddio cod mynediad Cyngor Bro Morgannwg: 58C37846HB
Weminar Lles, Gwydnwch a Myfyrio