Amser i Gysgu!

Mae cael digon o gwsg yn helpu pobl i fod yn fwy egnïol a gallu cyflawni'r hobïau y maent yn eu mwynhau a'r gwaith y mae angen iddynt ei wneud.

 

Canfuwyd bod cysgu gwael yn effeithio'n negyddol ar lawer o faterion iechyd meddwl, gan gynnwys:

  • meddyginiaethau’n llai effeithiol;
  • newidiadau mewn hwyliau;
  • llai o allu i ymdopi ag iselder a phryder;
  • cof a chanolbwyntio gwael;
  • teimlo'n isel ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi;
  • sbarduno gorffwylltra mewn pobl sydd ag anhwylder deubegynol

 

Apiau a Gweithgareddau

Gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu i gael y seibiant sydd ei angen arnoch. Mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi dod yn boblogaidd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd ei manteision niferus. Un o'r allweddi i well cwsg yw gwella ansawdd eich arferion amser gwely, sy'n arwain at well cwsg. Dyma rai dolenni defnyddiol i'ch helpu i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar:

Headspace

Hapusrwydd. Llai o straen. Cysgu’n dda. Headspace yw eich canllaw i ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer eich bywyd bob dydd ac mae'n cynnwys podlediadau cyn cysgu, sesiynau ymlacio cyn cysgu, cerddoriaeth sy’n eich helpu i fynd i gysgu, SOS gyda’r nos a mwy!

 Headspace ar YouTube

Apple-Store     Android App Store

Sylwer: Gall taliadau fod yn berthnasol.

Calm

Profwch llai o straen, llai o bryder, a chysgwch yn dda gyda'n sesiynau myfyrio dan arweiniad, straeon cyn cysgu, rhaglenni anadlu, dosbarthiadau meistr, a cherddoriaeth ymlaciol. 

Calm ar YouTube

Apple-Store     Android App Store 

Sylwer: Gall taliadau fod yn berthnasol.

Awgrymiadau gan yr Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl

"Rwy'n caru fy mlanced trwm, rhestr chwarae Spotify dda a blancedi glân."

"Mae bath cyn y gwely yn helpu mewn gwirionedd, anaml y bydd yn methu!"

"Dw’i wrth fy modd yn gwrando ar lyfr llafar. Dw’i bron bob amser yn syrthio i gysgu cyn mynd yn rhy bell i mewn i’r stori"

"Mae'r apiau ymwybyddiaeth ofalgar yn wirioneddol helpu."

"Mae'r ap Headspace ar gyfer cysgu wedi fy helpu i gael noson ymlaciol o gwsg, mae'n gweithio bob tro!"

     

    Adnoddau a dolenni eraill:

    MIND     Y GIG      Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl   

    Cerebra     Sleep Council