Iechyd Meddwl

Mental Wellbeing JigsawGwybodaeth ac arweiniad i gefnogi iechyd meddwl a lles staff.

 

O fewn Gwasanaethau Cyngor Bro Morgannwg, gwyddom ei bod o fudd i bob un ohonom siarad am iechyd meddwl.

Yma cewch wybodaeth am sut i gefnogi cydweithwyr, a lle i fynd os oes angen cymorth arnoch.

Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru

Adnoddau hunan-gymorth i gefnogi iechyd meddwl a llesiant. Gall dysgu gwahanol ffyrdd o wella a chynnal ein lles meddyliol, yn ogystal â chael y wybodaeth a'r sgiliau i ymdopi â gwahanol emosiynau a meddyliau anodd, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywydau.

Adnoddau Ar-lein

Amser i Newid Cymru

Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol gyntaf i chwalu’r stigma a’r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu. Mae eu gwefan yn rhannu profiadau bywyd go iawn, cyngor ac arweiniad. 

www.timetochangewales.org.uk

Y SAMARIAID

Cymorth emosiynol cyfrinachol, anfeirniadol i bobl sy’n teimlo gofid neu anobaith, gan gynnwys teimladau a allai arwain at hunanladdiad. Gallwch ffonio, e-bostio, ysgrifennu llythyr neu’n y rhan fwyaf o achosion siarad â rhywun wyneb yn wyneb.

www.samaritans.org

RETHINK MENTAL ILLNESS

Yn darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, yn ogystal â rhoi help i weithwyr iechyd proffesiynol, cyflogwyr a staff.

www.rethink.org

MIND

Mae Mind yn rhoi gwasanaethau gwybodaeth iechyd meddwl cyfrinachol. Gyda chymorth a dealltwriaeth, mae Mind yn galluogi pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Mae’r Llinell Wybodaeth yn rhoi gwybodaeth am fathau o drallod meddwl, lle i gael help, triniaethau cyffuriau, therapïau amgen ac eiriolaeth. Mae gan Mind hefyd rwydwaith o bron 200 o gymdeithasau Mind lleol sy’n cynnig gwasanaethau lleol.

www.mind.org.uk

SANELINE

Mae Saneline yn llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth a chymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl a’r bobl sy’n eu cefnogi.

www.sane.org.uk

  • 0845 767 8000 (6pm - 11pm)