Lles Emosiynol
Lles emosiynol yw eich gallu i ddeall gwerth eich emosiynau a'u defnyddio i symud eich bywyd ymlaen i gyfeiriadau cadarnhaol.
Mae lles emosiynol yn ymwneud â bod yn rhagweithiol a gofalu amdanoch chi’ch hun er mwyn sicrhau eich bod yn gallu meithrin cydnerthedd a gofalu am eich iechyd meddwl a chorfforol. Isod ceir rhai o'r ffyrdd y gallwn ddatblygu ein lles emosiynol.
Ffrindiau a theulu, treulio amser o ansawdd gydag eraill
- Eich helpu i ddatblygu cysylltiadau ac ehangu rhwydweithiau gydag eraill
- Datblygu eich hunan-barch
- Rhannu’ch pryderon gyda rhywun sy'n wirioneddol ofalu amdanoch
- Bydd yn eich helpu i atgyfnerthu ymddygiadau cadarnhaol
- Bydd treulio amser gyda ffrindiau a theulu yn lleihau eich lefeleu straen
Dysgu pethau sydd o ddiddordeb i chi a'ch cadw yn canolbwyntio
- Caniatáu i chi gwrdd â mwy o bobl ac yn rhoi syniadau i chi am bynciau newydd i siarad amdanynt
- Mae'n eich galluogi i ddod o hyd i rywbeth y gallech fod yn angerddol yn ei gylch yn y dyfodol
- Mae'n rhoi amser i chi fyfyrio ac i ddatblygu eich hunan yn y dyfodol - Rydych chi'n waith sy'n mynd rhagddo!
Symud i wella hwyliau a lleihau pryder
-
Bydd ymgymryd â'ch ymarfer corff yn gwella eich hwyliau bron ar unwaith
-
Bydd eich corff yn rhyddhau endorffinau sy'n godwyr hwyliau naturiol, yn ogystal â'ch helpu i ymlacio
-
Bydd eich system gardiofasgwlaidd yn elwa'n gyflym iawn a bydd eich calon yn dod yn fwy effeithlon o ran cael gwaed ac ocsigen o amgylch eich corff
Datblygwch angerdd a mabwysiadwch hobi newydd
- Bydd diddordeb newydd yn helpu i leihau straen a newid eich ffocws
- Bydd llawer o hobïau yn eich helpu i gwrdd â phobl newydd sydd â diddordebau tebyg
- Bydd dysgu rhywbeth newydd yn helpu eich meddwl i ddatblygu a hefyd yn amser i chi’ch hun
Myfyriwch neu Ymarferwch Ioga er mwyn Lleddfu Straen
- Mae myfyrdod yn ddull sydd â ffocws o feddwl dan arweiniad
- Mae ioga a tai chi, tra'n canolbwyntio ar symud, hefyd yn dda ar gyfer lleihau straen
- Ymhlith y technegau eraill sy'n lleihau straen mae anadlu dwfn ac ymlacio cyhyrau cynyddol.
Rheoli eich Amser
- Ceisiwch wneud amserlen a gosod nodau i chi'ch hun ar gyfer yr wythnos. Byddwch yn dechrau teimlo mwy o reolaeth dros eich gweithgareddau wythnosol ac yn teimlo'ch bod yn gallu canolbwyntio’n well.
- Bydd ticio pethau ar eich rhestr i wneud hefyd yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i chi a byddwch yn teimlo’n llai o dan straen.
- Yna’n naturiol byddwch yn dod o hyd i amser i wneud mwy o bethau a fydd yn eich helpu i ofalu amdanoch ch’ch hun, fel cael bath, darllen, hobïau ac ati.
Cael Digon o Gwsg
- Mae cael digon o gwsg yn helpu pobl i fod yn fwy egnïol a gallu cyflawni'r hobïau y maent yn eu mwynhau a'r gwaith y mae angen iddynt wneud.
- Tueddir i orliwio problemau os nad ydych wedi cael digon o gwsg o ansawdd
Treulio amser yn yr awyr agored
- Gyda mwy o amlygiad i olau haul naturiol, mae achosion o anhwylder affeithiol tymhorol yn gostwng.
- Pan fydd unigolion yn cael golau haul naturiol, mae'r fitamin D yn eu croen yn helpu i godi eu hwyliau.
- Treulio llai o amser o flaen y teledu a'r cyfrifiadur a mwy o amser yn cerdded ac yn gwneud pethau eraill sy'n rhoi'r corff ar waith.
- Mae gweithgareddau awyr agored i blant yn cynnig manteision di-rif i les teuluol