Amser Cwestiynau gyda Rob Thomas a Tom Bowring

Ymunwch â ni ar 8 Ebrill ar gyfer sesiwn Amser Cwestiynau gyda'n Prif Weithredwr Rob Thomas a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol Tom Bowring.

Dyma'ch cyfle i glywed yn uniongyrchol ganddyn nhw am gyfeiriad, blaenoriaethau a phrosiectau allweddol y sefydliad ac, yn bwysicaf oll, cewch gyfle i ofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi.

Pryd? 8 Ebrill, 2pm – 3pm 

Ble? Teams (gweminar)

Cliciwch yma i gadw’ch lle!

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda diweddariad 20 munud yn ymwneud â datblygiadau allweddol ar draws y cyngor, gan gynnwys:

  • Bro 2030 - ein Cynllun Corfforaethol newydd  
  • Brilliant Basics – y gwaith hanfodol sy'n angenrheidiol wrth ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid
  • Cryfhau sut rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill a mwy!

Yn dilyn hyn bydd amser holi byw 40 munud, lle byddwn yn mynd i'r afael â'r pynciau sydd bwysicaf i chi!

Cliciwch yma i gyflwyno eich cwestiynau yn ddienw.

Os nad ydych yn gallu dod i'r sesiwn ond bod gennych gwestiynau i'w gofyn o hyd, cyflwynwch nhw drwy'r ddolen uchod.

Bydd recordiad o'r sesiwn ar gael ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben hefyd.

Sylwch nad oes angen camera neu mic arnoch i ymuno â'r sesiwn. Byddwch chi’n gallu ymgysylltu â'r sesiwn drwy'r opsiwn Holi ac Ateb ar Teams.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ymgysylltu'n uniongyrchol â'n tîm arwain.

Cofrestrwch nawr i gadw eich lle.