Yr Wythnos Gyda Rob 

24 Ionawr 2025

Helo Bawb,

Dydd Gwener Hapus!

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur arall, ac er ein bod yn dal i fod yn nyfnder misoedd oer y gaeaf, roeddwn i eisiau rhannu rhai o'r pethau gwych sydd wedi bod yn digwydd ar draws y Fro er mwyn ychwanegu rhywfaint o gynhesrwydd i'ch wythnos!

Yn gyntaf, hoffwn eich atgoffa i gyd o Makerspace yn Llyfrgelloedd y Barri a Phenarth. Mae'r cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddefnyddio ystod eang o wahanol offer creadigol — gan gynnwys Argraffydd 3D, Cricut Maker 3, Gwasg Gwres, Camera DSLR a llawer mwy.

Mae pob lleoliad hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â gweithdai codio ac argraffu 3D i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol.

Makerspace

Mae nifer o greadigaethau trawiadol wedi dod yn fyw yn y Makerspaces - o fodelau argraffu 3D o longau rhyfel Napoleonaidd a chymeriadau gêm, i echelau newydd ar gyfer ceir RC a darnau celf cysyniadol.

Hoffwn rannu darn teimladwy o adborth gan yr artist lleol Inga K, sydd wedi elwa o rai o'r offer creadigol sydd ar gael yn Llyfrgell y Barri: “Diolch yn fawr iawn i chi am gefnogi fy syniadau prosiect ac am arddangos y technegau torri laser yn y Makerspace yn Llyfrgell y Barri.

“Fel artist lleol heb fynediad at y dechnoleg hon, cefais profiad a oedd yn agoriad llygad ac yn ysbrydoledig. Mae wedi ehangu fy nealltwriaeth o gyfleoedd ar gyfer cydweithio a chreadigrwydd, gan ganiatáu imi fynd â fy syniadau o'r llyfr braslunio i ddylunio cynnyrch.”

Dyma un enghraifft yn unig o sut mae gwasanaethau fel Makerspace yn cefnogi pobl o bob oed yn ein cymuned i ennill sgiliau gydol oes a phrofiadau newydd.

Os ydych chi naill a’i eisiau seibiant o'r tywydd oer neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, byddwn yn annog pawb i wneud taith i lawr i Makerspace os cewch chi gyfle.

Da iawn i Simon Alexander a Chloe Hunt am eich holl waith caled i helpu'r Gwneuthurwyr i ffynnu!

Yr wythnos hon hefyd roedd agoriad parc chwarae newydd yn Mharc Celtic Way yn y Rhws.

Roedd plant o grŵp chwarae lleol ymhlith y cyntaf i fwynhau'r cyfleusterau newydd.

Mae'r ardal chwarae  - sydd a thema natur - bellach yn gartref i set o siglenni, si-so, sleidiau – gyda llawer ohonynt yn hygyrch - yn ogystal â llond llaw o weithgareddau synhwyraidd.

Maes Chwarae Celtic Way
Gwnaed nifer o welliannau bioamrywiaeth hefyd cyn adeiladu ar yr ardal chwarae, gan gynnwys plannu bylbiau, blodau gwyllt a choed gyda chymorth Partneriaeth Natur Leol y Fro a'r grŵp cymunedol lleol - Replant Rhoose.

Talwyd am y gwelliannau — gwerth £180,000 — gydag arian o gyfraniadau Adran 106 a gynhyrchwyd drwy geisiadau cynllunio a'u negodi pan roddir caniatâd cynllunio.
Mae Lucy Butler a'i thîm yn gweithio'n galed iawn i sicrhau'r cyllid hwn sy'n helpu i ddarparu cyfleusterau cymunedol pwysig fel rhan o'r broses gynllunio, ac rwy'n gwybod yn rhy dda bod gennym hanes ardderchog o ran negodi gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel rhan o'r broses gynllunio. Ar adeg o heriau ariannu sylweddol, mae'r arian yn caniatáu inni fuddsoddi mewn gwelliannau i barciau, mannau chwarae, gwelliannau trafnidiaeth gynaliadwy lleol, adeiladau ysgolion a thai fforddiadwy. Da Iawn.

Diolch i Lucy, Adam Sargeant, Christine Smith, ac i bawb sy'n rhan o’r prosiect — rwy'n siŵr y bydd yr ardal chwarae newydd yn cael ei mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.
gweithdai teuluoeddDdydd Iau, cynhaliwyd cyfres o weithdai yng Nghanolfan Celfyddydau y Memo yn y Barri fel rhan o waith parhaus i ymgynghori ar y gwasanaethau sy'n cefnogi babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn ymdrech i fynd i'r afael â thlodi yn y Fro.

Gwahoddwyd staff o bob rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Dysgu a Sgiliau a'r trydydd sector i fynychu'r sesiynau ymgysylltu i drafod nifer o wasanaethau, gan gynnwys Gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf, Cymorth Cynnar, Dechrau'n Deg, YJESS, Cefnogi Pobl, Cymunedau am Waith a CELT+.

Helpodd y digwyddiad i ledaenu ymwybyddiaeth am y cymorth y gall y gwasanaethau hyn ei gynnig i drigolion yn y Fro ac i ddeall yn well unrhyw gyfleoedd i wella yn y dyfodol.
Da iawn Mark Davies a'r tîm ar gyfer datblygiad llwyddiannus y gweithdai hyn - mae'n hanfodol ein bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd fel y gallwn wneud gwasanaethau'r Cyngor y gorau y gallant fod ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gan gadw gyda'r thema plant a theuluoedd, hoffwn dynnu eich sylw at y Digwyddiad Rhwydweithio Teuluoedd yn Gyntaf sy'n cael ei gynnal fis nesaf.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf ym mis Mawrth y llynedd, trefnir cyfarfod tebyg ar gyfer mis Chwefror.

Mae'r digwyddiad yn gyfle i unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd ym Mro Morgannwg ddarganfod rhai o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn yr ardal.

Bydd yn cael ei gynnal ar Chwefror 19, yng Nghanolfan Celfyddydau y Memo ar Heol Gladstone.

Roedd gennym dros 110 o bobl yn bresennol y llynedd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle!

Yn olaf, ar nodyn mwy sobr, hoffwn siarad am Ddiwrnod Coffa'r Holocost.

Galeri Celf y BarriRydym yn cofio'r miliynau o fywydau Iddewig a gollwyd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill yn Cambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur ac yn ogystal â grwpiau eraill a ddioddefodd erledigaeth y Natsïaid.

Yn gynharach yr wythnos hon, a chyn Diwrnod Cofio'r Holocost ddydd Llun, mae'r Arweinydd a minnau wedi ailddatgan ein hymrwymiad i gryfhau ein hymdrechion wrth hyrwyddo addysg ac ymchwil am yr Holocost a hil-laddiadau eraill.

Rydym yn condemnio rhagfarn, gwahaniaethu a hiliaeth ac rydym yn gwerthfawrogi cymdeithas rydd, goddefgar a democrataidd.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gwersi digwyddiadau o'r fath yn cael eu dysgu'n llawn ac na fyddant byth yn digwydd eto.

Eleni fydd 80 mlwyddiant rhyddhau Auschwitz-Birkenau a 30 mlwyddiant yr hil-laddiad yn Bosnia - mae'r Oriel Gelf Ganolog yn y Barri yn cynnal arddangosfa sydd yn cyflwyno cyfres o greadigaethau sy'n ystyried trawma a cholled gyda phwyslais ar symud ymlaen o erchyllterau o'r fath.

Mae'r oriel yn cynnig lle i fyfyrio ar Ddiwrnod Coffa'r Holocost i unrhyw un sy'n dymuno cymryd eiliad tawel.

Diolch am eich holl waith caled eto yr wythnos hon, ac os nad ydych yn gweithio, mwynhewch eich penwythnos!

Diolch yn fawr iawn,

Rob