Mae Dydd Gŵyl Dewi ar ddydd Sadwrn 1, Mawrth.

St Davids Day Logo

Yn ogystal â gwisgo eich cennin Pedr a’ch het Gymreig, bwyta pice bach a chawl, eleni rydym am edrych ar y camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i hybu a hyrwyddo'r Gymraeg yma yng Nghyngor Bro Morgannwg. 

  • Gwnewch yn siŵr bod eich llofnod e-bost yn ddwyieithog

Mae'r weithred syml hon yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i'r Gymraeg ac yn atgoffa pobl o'u hawl i gael mynediad at wasanaethau trwy'r Gymraeg.

Os nad ydych yn gwybod beth yw’r cyfieithiad Cymraeg ar gyfer teitl eich swydd neu adran, ewch ati i ddysgu beth ydyw! Gwiriwch eich bathodyn adnabod, contract eich swydd, neu gyda'ch rheolwr llinell.

  • Cwblhewch yr asesiad sgiliau Cymraeg

Asesiad Sgiliau Cymraeg

Mae tipyn o amser wedi mynd heibio ers i ni gynnal asesiad o sgiliau Cymraeg staff ddiwethaf, felly rydym yn diweddaru ein cofnodion. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i gynllunio a hyrwyddo cyrsiau Cymraeg ac asesu galluoedd Cymraeg presennol i sicrhau y gallwn ddarparu ein gwasanaethau i'r rheini sydd eu hangen yn Gymraeg.

  • Cofrestrwch ar gyfer cwrs Cymraeg Gwaith

Dysgu Cymraeg / Learning Welsh

Fel un o weithwyr y Cyngor, gallwch ddysgu Cymraeg am ddim drwy'r cynllun Cymraeg Gwaith. Ni fydd yn rhaid i chi ddefnyddio gwyliau blynyddol na'ch amser eich hun i fynd i'r cyrsiau ond gwiriwch gyda'ch rheolwr cyn cofrestru. 

  • Cwblhewch gwrs Cymraeg byr ar-lein

CYRSIAU BLASU BYR AR-LEIN | Dysgu Cymraeg

Mae llawer o gyrsiau byr ar-lein a chyrsiau penodol i'r diwydiant ar gael gyda Dysgu Cymraeg. Mae'r cyrsiau'n cyflwyno geiriau ac ymadroddion bob dydd ac maent ar gael i bawb, am ddim. Mae rhai cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

  • Dysgwch ragor am y Gymraeg drwy'r cwrs Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg hwn ar iDev

Cwrs: Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg - Welsh Language Awareness

Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd, yr hyn mae'r gyfraith yn ei ddweud, ac yn edrych ar yr hyn y mae'n ofynnol i ni ei wneud a pham. Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar ymarferoldeb gweithio'n ddwyieithog a beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau.   

  • Ewch i'r Hyb Cymraeg ar Staffnet+ am ragor o wybodaeth am bopeth yn ymwneud â'r Gymraeg yma yng Nghyngor Bro Morgannwg.

Hyb Cymraeg

 

Cymerwch gip hefyd ar Ŵyl Dydd Gŵyl Dewi yn y Barri ddydd Sadwrn, 1 Mawrth neu gymryd rhan yn y Carlam Cennin Pedr cyntaf ar ddydd Sul, 2 Mawrth– ewch i Ymweld â’r Fro am ragor o fanylion!

Dydd Gŵyl Dewi / St David's Day, Y Barri | Ymweld â’r Fro

Carlam Cennin Pedr - Daffodil Dash, Ynys y Barri | Ymweld â’r Fro