Ydych chi'n barod i ddatgloi eich potensial digidol? Defnyddiwch declyn potensial digidol Gofal Cymdeithasol Cymru heddiw!

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu teclyn am ddim i helpu staff gofal cymdeithasol i weithredu i ddatblygu eu hyder digidol.  

Ni waeth ble rydych chi ar eich taith, bydd y teclyn potensial digidol am ddim yn eich helpu i gymryd eich camau nesaf.

Sut ydw i'n cyrchu'r teclyn?

Ydych chi wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru? Gwiriwch eich mewnflwch (neu ffolder sothach) am e-bost a anfonwyd ar 9 neu 10 Ionawr yn cynnwys eich dolen unigryw.

Mae'r ddolen hon yn unigryw i'n sefydliad. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn cwblhau'r teclyn, y bydd eich canlyniadau dienw yn bwydo i ganfyddiadau cyffredinol Cyngor Bro Morgannwg.    

 

Ar ôl ateb rhai cwestiynau am eich hyder digidol, bydd y teclyn yn rhoi’r canlynol i chi: 

mewnwelediadau personol i'ch cryfderau digidol a'ch meysydd i'w datblygu  

adnoddau a hyfforddiant wedi'u teilwra i'ch helpu i wella'ch sgiliau digidol. 

Rhagor o wybodaeth:

 Gofal Cymdeithasol Cymru | Defnyddiwch ein dyfais am ddim i ddeall eich ...  

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i wella eich dealltwriaeth o'ch potensial digidol. Cwblhewch y teclyn erbyn 21 Chwefror