Ar hyn o bryd mae prentisiaid yn gweithio ar draws y Cyngor ym mhob cyfarwyddiaeth mewn amrywiaeth o rolau.
Mae hyn nid yn unig yn rhoi cymorth mawr ei angen i dimau, ond hefyd yn cynnig llwyfan gwych ar gyfer datblygu, gyda llawer o'n prentisiaid yn sicrhau contractau parhaol ac yn symud ymlaen i rolau uwch.
Mae nifer o gyfleoedd prentisiaeth ar gael o fewn y Cyngor a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallai hyn fod o fudd iddynt hwy neu eu tîm i gymryd golwg.
Bu Cymunedau am Waith+ y Fro mewn partneriaeth â CELT+, y Gwasanaeth Ieuenctid, Adfywio, Gyrfa Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC), a Chanolfan Byd Gwaith y Barri i gynnal digwyddiad Prentisiaethau a Gyrfaoedd yng Nghanolfan Celfyddydau Memo, y Barri ddydd Mercher.

Er mwyn sicrhau hygyrchedd, cynigiwyd cludiant am ddim a chostau staff i holl ysgolion uwchradd y Fro. Trefnodd sawl ysgol i fyfyrwyr Blwyddyn 10, 11, 12, a 13 fynychu, tra bod CCAF yn hyrwyddo’r digwyddiad yn weithredol i fyfyrwyr a fyddai’n elwa o gymryd rhan.
Lansiwyd ymgyrch farchnata wedi’i thargedu ar y cyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod cyn y digwyddiad, gan sicrhau’r gwelededd a’r ymgysylltu mwyaf posibl ar draws y Fro a’r ardaloedd cyfagos. Chwaraeodd yr hyrwyddiad strategol hwn ran hanfodol wrth ddenu mynychwyr a chreu diddordeb eang.
Roedd dros 60 o sefydliadau yn bresennol mewn meysydd megis Gwasanaethau Cyhoeddus, Addysg, Adeiladu, Peirianneg, Cyllid, Gweithgynhyrchu, Gofal Plant, Iechyd yr Amgylchedd, AD, Cyfryngau Darlledu a Ffilm, Trafnidiaeth, Hedfan, a TG/Tech.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i fynychwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr, dysgu am gyfleoedd prentisiaeth a swyddi a chael cipolwg ar y prosesau recriwtio a’r meini prawf cymhwysedd.
Yn ogystal, roedd ystod o wasanaethau addysgol, hyfforddiant a chymorth ar gael i gynnig arweiniad a gwybodaeth.
Cynigiodd myfyrwyr CAVC amrywiaeth o sesiynau blasu i arddangos eu sgiliau a’r cyfleoedd oedd ar gael a oedd yn cynnwys Peirianneg Fodurol, Peirianneg Awyrennau, Iechyd a Gofal, Busnes a TG a Marchnata a Thrin Gwallt.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu dros 1000 o bobl ar draws dwy sesiwn: 10am i 2pm a 3pm i 6pm.
Yn ystod sesiwn hwyr y prynhawn gwelwyd nifer ryfeddol o rieni yn dod â’u plant, unigolion yn mynychu ar ôl gwaith a phobl ifanc yn dilyn ysgol.
Rydyn ni bron hanner ffordd drwy Fis Hanes LHDT erbyn hyn, a thema eleni yw Gweithrediaeth a Newid Cymdeithasol.
Mae hyn yn cael ei gydnabod mewn amrywiaeth o ffyrdd ar draws y Cyngor, nid lleiaf gan GLAM, ein grŵp ar gyfer cydweithwyr a chynghreiriaid LGBTQ+.
Ar y pwnc hwnnw, cyn bo hir bydd Lee Boyland yn rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd y rhwydwaith felly roeddwn am ddiolch iddo am ei waith yn y rôl.
Nid oes amheuaeth bod proffil a dylanwad GLAM wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ac mae Lee yn rheswm mawr dros y cynnydd hwnnw. Da iawn Lee, a diolch am eich ymdrechion.
Nesaf, roeddwn am sôn am Bywydau a Rennir , cynllun sy’n helpu oedolion agored i niwed i gael cymorth o fewn amgylchedd teuluol diogel.
Mae Bywydau a Rennir Bro Morgannwg wedi’i sefydlu ers dros 20 mlynedd, gan helpu unigolion ag anghenion amrywiol gan gynnwys anableddau dysgu a chorfforol, awtistiaeth, problemau iechyd meddwl a dementia.
Mae Gofalwyr Bywydau a Rennir yn agor eu cartrefi teuluol eu hunain i’r person sydd angen cymorth.
Y nod yw helpu pobl i fyw eu bywydau gorau, eu ffordd, yn eu cymunedau eu hunain tra hefyd yn hybu annibyniaeth a datblygu sgiliau newydd.
Mae Paul Marchant, Anna Seldon, Rebecca Welch, CeriAnne Gratton, Sarah Frayne, Sophie Delahaye, Eva Leahy-Koska, Kathryn Walker-Ellis, Richard Roberts a Karen Rogers yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn ac maent bob amser yn chwilio am ofalwyr newydd.
Oes gennych chi ystafell wely sbâr ac a ydych chi'n chwilio am gyfle sy'n newid bywyd i gefnogi rhywun yn eich cartref eich hun?
Beth am ymuno â Bywydau a Rennir a dod yn Ofalwr?
Mae Bywydau a Rennir yn recriwtio gofalwyr o bob cefndir. Mae'r gwasanaeth yn croesawu unrhyw oedran neu gefndir, pobl sengl, cyplau a theuluoedd gyda neu heb blant.
Mae hefyd yn croesawu atgyfeiriadau gan bob tîm yn y gwasanaethau cymdeithasol a allai gynnig lleoliad addas.
Cynhaliodd y cynllun ddigwyddiad Dweud Eich Dweud yn y Barri yn ddiweddar, a alluogodd pobl i rannu eu barn ar y gwasanaeth a rhoi adborth.
Daeth llawer iawn i’r digwyddiad ac roedd yn gyfle gwych i drafod sut mae Bywydau a Rennir yn gweithio i bobl y mae’r gwasanaeth yn eu cefnogi ar hyn o bryd a ffyrdd o’i wella yn y dyfodol.
Yn olaf, mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.
Mae hwn yn cynnig gofal plant wedi'i ariannu i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio a'r rheini mewn addysg uwch.
Gall cymorth ariannol i blant a anwyd rhwng 01 Ionawr 2022 a 31 Mawrth y flwyddyn honno ddechrau o 28 Ebrill.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy ffonio 03000 628628.
Yn olaf, fel bob amser, diolch yn fawr iawn am eich ymdrechion yr wythnos hon, maen nhw bob amser yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
I'r rhai nad ydynt mewn gwaith, mwynhewch ychydig o ddiwrnodau ymlaciol a llonydd i ffwrdd.
Diolch yn fawr iawn,
Rob.