Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2025

Roeddem am dynnu sylw at rywfaint o’r gwaith pwysig sy’n digwydd yn y Fro i godi ymwybyddiaeth o hiliaeth a gwahaniaethu.

Thema Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2025 yw #PobGweithredYnCyfrif ac yn ein hannog ni i gyd i dyfu'n bersonol ac fel cymuned

Yr unig ffordd i sicrhau tegwch a chydraddoldeb yw i bob un ohonom weithredu.

Eleni byddwn yn cymryd rhan yn yr her bum niwrnod – lle byddwn yn ymroi bob dydd o’r wythnos i fynd i’r afael â gwahanol faterion allweddol a dyddiol sydd mor niweidiol i’n cydweithwyr, ffrindiau, cymuned a theuluoedd.

Race Equality Week 2025 logo

Cyn Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, ymwelodd yr elusen gwrth-hiliaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ag Ysgol Gynradd yr Holl Seintiau yr Eglwys yng Nghymru yn y Barri yn ddiweddar fel rhan o'u cynllun peilot Arweinwyr Nawr.

Dewisodd yr ysgol grŵp o ddisgyblion i ffurfio grŵp gweithredu gwrth-hiliaeth.

Bu’r grŵp yn gweithio gyda staff Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i archwilio sut y dylai gwrth-hiliaeth edrych yn eu hysgol, yr arfer da sy’n digwydd eisoes yn yr ysgol a’r hyn y byddent yn anelu at barhau i’w wneud yn y dyfodol.

Dros gyfnod o ddeg wythnos, ymgymerodd y grŵp ag amrywiaeth o weithgareddau – gan gynnwys creu enw grŵp – Coch i Hiliaeth – dylunio logo a chynnal arolwg ysgol gyfan i weld sut roedd gwrth-hiliaeth yn cael ei adlewyrchu yn eu hadnoddau a chreu cwestiynau yn gofyn i staff a myfyrwyr am eu dealltwriaeth a'u meddyliau am wrth-hiliaeth.

Ar ddiwedd y prosiect, cwblhaodd y grŵp gyflwyniad i gyd-ddisgyblion, staff yr ysgol, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol ar yr hyn y buont yn gweithio arno a’u cynlluniau tymor hir.

Yn dilyn llwyddiant eu cyflwyniad, gwahoddwyd y myfyrwyr i’w gyflwyno i aelodau Grŵp Cydlyniant Cymunedol y Fro ym mis Ionawr.

School Anti-Racism Group Presentation

Dywedodd George Ashworth, Dirprwy Bennaeth Ysgol yr Holl Seintiau yr Eglwys yng Nghymru: “Rhoddodd Grŵp Coch i Hiliaeth gyflwyniad gwych i aelodau Grŵp Cydlyniant Cymunedol Bro Morgannwg.

“Roedd cynrychiolwyr o gorff llywodraethu’r ysgol a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth hefyd yn bresennol i glywed y plant yn esbonio sut mae’r ysgol yn codi proffil Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, sut maent yn cael dealltwriaeth ddyfnach o gynefin, amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant, a sut mae’r pynciau pwysig hyn yn cael eu haddysgu yn yr ysgol, wedi’u llywio gan lais y disgybl.

“Mae’r plant yn awyddus i gyflwyno eto yn y dyfodol ac yn gyffrous i barhau i weithio tuag at y targedau a amlinellwyd yn eu cynllun gweithredu.

“Diolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at y digwyddiad gwych hwn.”

Yr wythnos diwethaf, daeth grŵp o staff y Fro at ei gilydd hefyd i ymuno â gweminar a gynhaliwyd gan Rachel Clarke o Apex Educate – sy’n ymgynghoriaeth gwrth-hiliaeth.

Siaradodd Rachel â’r grŵp am y dirwedd gyfryngau gyfredol ac anogodd staff i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain hefyd.

Ar ôl trafod astudiaeth achos, cyflwynodd Rachel rai strategaethau allweddol i’r grŵp ar gyfer ymateb i gyfryngau negyddol a’u trin.

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, cliciwch yma.

Cael eich Clywed. Creu Newid. Gwnewch Wahaniaeth - ymunwch â'r Rhwydwaith Staff!

Mae'r Rhwydwaith Staff yn gweithio i hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.

Mae croeso i bob aelod o staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi eu cenhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.