- Hawlio ein gorffennol
- Dathlu'r presennol
- Creu ein dyfodol
Pam fod hyn yn bwysig?
Mae cydnabod Mis Hanes LHDT+ yn hollbwysig gan ei fod yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddeall, parchu a dathlu amrywiaeth y Gymuned LHDT+.
Mae'r mis hwn yn gyfle i daflu goleuni ar frwydrau hanesyddol, cyflawniadau a chyfraniadau'r gymuned LHDT+.
Mae’n rhoi cyfle i drafod datblygiadau cadarnhaol mewn cymdeithas, ond hefyd yn cydnabod bod dal llawer i'w gyflawni.
Bob blwyddyn mae Schools OUT yn dewis pum ffigwr hanesyddol LHDT+ yn unol â'r thema i'w hamlygu.
Eleni maen nhw wedi dewis pump o bobl LHDT+ sydd wedi creu newid cymdeithasol ar draws y canrifoedd wrth ddatblygu newid i fenywod, yr amgylchedd, tai, diarfogi niwclear, cadw treftadaeth, diddymu’r fasnach gaethweision, a mewnfudo, ymhlith llawer o achosion eraill.
Ffigurau Hanesyddol LHDT+ 2025 yw:
- Octavia Hill
- Ivor Cummings
- Annie Kenney
- Charlie Kiss
- Olaudah Equaino
Am fwy o adnoddau o wybodaeth, ewch i: Mis Hanes LHDT+