Bydd Jeff Rees, ein Rheolwr Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, yn ymddeol ddydd Gwener ar ôl dim llai na 41 mlynedd a 3 mis yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg.
Ymunodd Jeff â llywodraeth leol fel Clerc Pwyllgor Hyfforddai ym mis Mehefin 1983. Mae wedi gweithio ei ffordd trwy rolau amrywiol ac wedi helpu i sicrhau bod gweithrediadau democrataidd y cyngor yn rhedeg yn llyfn o oes cofnodion llawysgrifen a Dictaphones i gyfarfodydd hybrid a recordiadau YouTube.
Fel Rheolwr Gweithredol ers 2018 mae Jeff wedi llywio'r tîm Gwasanaethau Democrataidd a Chofrestru trwy ei gyfnod newid mwyaf erioed o bosibl.
Mae wedi bod yn gefnogaeth wych i lawer iawn o gydweithwyr drwy gydol ei yrfa. P'un a hoffech ddweud ffarwel hoff neu ddim ond eisiau gweld cefn iddo, mae croeso mawr i bob cydweithiwr fynychu cyflwyniad ddydd Gwener yma (13 Medi) am 12:00 yn Ystafell Dunraven (yr Ystafell Gorfforaethol gynt) yn y Swyddfeydd Dinesig.
Gwahoddir cydweithwyr hefyd i godi gwydr iddo ym mar yr Academi yn y Barri o 4.00pm ymlaen y prynhawn hwnnw.