Staffnet+ >
Symleiddio amserlennu cyfarfodydd — trefnwch cyfarfodydd heb welededd calendr!
Symleiddio amserlennu cyfarfodydd — trefnwch cyfarfodydd heb welededd calendr!
Rydym wedi cyffroi yn fawr i gyhoeddi lansiad Microsoft Bookings
Bydd yr offeryn pwerus hwn yn eich helpu i reoli eich apwyntiadau personol drwy ganiatáu i eraill drefnu apwyntiadau gyda chi ar-lein, gan eich helpu i reoli eich amserlen wrth i bopeth gael ei reoli yn yr un lle.
Pam defnyddio Bookings?
- Cysoni â chalendr Outlook: Mae Bookings wedi'i chysylltu'n uniongyrchol â'ch calendr Outlook, felly mae pryd rydych chi ar gael yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig yn y ddwy system - felly nid oes angen rheoli dau galendr!
- Amserlennu Symlach: Gallwch drefnu cyfarfodydd yn rhwydd heb drafferth cyfnewid e-bost.
- Mwy o Gynhyrchiant: Treuliwch lai o amser yn cydlynu amserlenni a mwy o amser ar dasgau cynhyrchiol
- Gwell Profiad i’r Cwsmer: Darparwch brofiad archebu syml gan wella boddhad ac ymgysylltiad
Sefydlu eich tudalen Bookings Personol
P'un a oes angen i chi drefnu cyfarfodydd gyda chwsmeriaid allanol neu gydweithwyr, gwnewch hi'n hawdd ac yn gyfleus i chi a'ch mynychwyr. Dyma sut:
- Defnyddio Microsoft Bookings: Ewch i'r ap Microsoft Bookings drwy Microsoft365.com
- Creu Eich Tudalen Bookings: Dilynwch y '3 cham i ddechrau'
- 3. Rhannu Eich Dolen Bookings: Rhannwch y ddolen i ddechrau derbyn apwyntiadau
Adnoddau ategol
Gwyliwch y fideo byr hwn ar y 3 cham i ddechrau.
Adnoddau Pellach: Dysgu am Bookings personol.