Staffnet+ >
Canllaw Rheolwyr NEWYDD i Oracle Fusion
Canllaw Rheolwyr NEWYDD i Oracle Fusion
Mae Oracle Fusion bellach wedi bod yn y Fro ers blwyddyn. Yn rhan allweddol o strategaeth ddigidol y Cyngor, mae'r platfform wedi helpu i wella effeithlonrwydd drwy ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i reolwyr gwblhau tasgau.
Ers lansio'r platfform, rydym wedi cyflwyno adnoddau dysgu amrywiol ar Hyb Staffnet Oracle Fusion ac iDev.
Canllaw rheolwyr i Oracle Fusion yw'r adnodd diweddaraf i gael ar yr hyb:
Canllaw Rheolwyr i Oracle Fusion
Mae'r canllaw yn cynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gyflawni swyddogaethau allweddol y mae gan reolwyr fynediad atynt, gan gynnwys rheoli absenoldebau, taflenni amser, treuliau, manylion cyflogaeth a mwy.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y canllaw, cysylltwch â fusion@valeofglamorgan.gov.uk.