Staffnet+ >
Mae'n wythnos ymwybyddiaeth pensiynau!
Mae'n wythnos ymwybyddiaeth pensiynau!
Fel rhan o'n partneriaeth barhaus gyda My Money Matters, rydym yn falch o ddod ag amrywiaeth o adnoddau a chymorth i chi ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiynau.
Yr wythnos hon, bydd gennych fynediad i'w blog addysgiadol ar hanfodion pensiwn, gweminar yn seiliedig ar ffeithiau i’ch helpu i ddeall eich pensiwn, ac offer fel cyfrifiannell CGYau i weld faint y gallech ei gynilo. Hefyd, mae sesiynau hyfforddi un wrth un ar gael ar gyfer cyngor personol. I'ch helpu i wneud yn fawr o'r adnoddau hyn, dilynwch y pum cam a amlinellir isod. Manteisiwch i'r eithaf ar y cyfle hwn i gymryd rheolaeth o'ch dyfodol ariannol!
(Sylwch nad yw'r adnoddau isod ar gael yn Gymraeg)
Cam 1 - Pwysigrwydd Ymwybyddiaeth Pensiynau: Pam mae’n Bwysig i Chi
Dysgwch am yr hanfodion, a chwalwch ambell gamsyniad cyffredin yr Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn hon trwy ddarllen y blog hwn a ysgrifennwyd gan ein partner My Money Matters.
Cam 2 - Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn: Mae gwybodaeth yn eich ymbweru!
Ydych chi wedi archebu eich lle eto? Mae'r arbenigwyr addysg ariannol yn My Money Matters wedi creu'r weminar hon i roi'r holl ffeithiau am bensiynau sydd eu hangen arnoch. Cliciwch i gadw lle ar y weminar hon cyn iddi fod yn rhy hwyr, a chael cyfle i ennill 1 o 5 o gardiau eGift gwerth £50! Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol.
Cam 3 - Dysgwch faint allech chi gynilo.
Dilynwch y wybodaeth a gawsoch drwy'r weminar a gwirio Hwb Gwybodaeth My Money Matters. Defnyddiwch y gyfrifiannell i weld faint y gallech ei gynilo gyda chynllun Rhannu Cost CGY.
Cam 4 - Eisiau mwy? Trefnwch sesiwn hyfforddi un wrth un
Dal â chwestiynau?Archebwch gyda Hyfforddwr Addysg Ariannol i gael atebion a gwybodaeth wedi'i theilwra am sut y gallai cynllun Rhannu Cost CGY eich helpu i wireddu eich ymddeoliad delfrydol.
Buddsoddiad hirdymor yw Pensiwn, gall gwerth y gronfa amrywio a gall ostwng. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa pan fyddwch chi’n ymddeol, cyfraddau llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.
Cam 5 – Cyflwyno eich cais CGY
Yn barod i wneud yn fawr o'ch cyfleoedd cynilo ar gyfer ymddeol? Ewch i My Money Matters i gyflwyno'ch cais Rhannu Cost CGY heddiw. Gydag arbedion Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol i'w gwneud, bydd pob £10 a gynilwch ond yn costio dim ond £7.28* o'ch cyflog.
*Mae cynilion cyfradd sylfaenol yn cael eu harddangos fel canllaw yn unig. Mae cyfradd sylfaenol yn tybio bod unigolyn yn talu cyfraniadau 20% Treth Incwm ac 8% Yswiriant Gwladol. Buddsoddiad hirdymor yw Pensiwn, gall gwerth y gronfa amrywio a gall ostwng. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa pan fyddwch chi’n ymddeol, cyfraddau llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.