Cyflwyno'r Hyb Cymraeg NEWYDD - y cartref newydd i bob peth Cymraeg!
Mae Hyb Cymraeg yn tynnu'r holl wybodaeth am wasanaeth cyfieithu Cymraeg y Cyngor, Safonau'r Gymraeg, a chyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, yn un hyb ar-lein hawdd ei gyrchu:
Hyb Cymraeg

Fel Awdurdod Lleol yng Nghymru, mae'r Gymraeg yn ystyriaeth bwysig yn ein holl waith.
Rhaid i ni, a phob corff cyhoeddus yng Nghymru gadw at safonau'r Gymraeg, deddfwriaeth sy'n sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.
Os nad ydych yn siŵr sut mae'r safonau'n effeithio ar eich maes gwaith, mae'r hyb yn manylu pa ystyriaethau sydd angen eu gwneud ar gyfer gweithgareddau cyffredin, gan gynnwys cyfathrebu, digwyddiadau, cyfarfodydd, recriwtio, a mwy.
Ers i'r ddeddfwriaeth ddod i mewn, mae llawer o waith wedi'i wneud i sicrhau y gall ein cymunedau a'n staff gael mynediad at wasanaethau yn yr iaith o'u dewis.
Er mwyn ein helpu ar ein ffordd, cyflwynodd y Cyngor wasanaeth cyfieithu ar y cyd, Bilingual Cardiff, gyda Chyngor Caerdydd yn 2016. Mae gan yr holl staff fynediad i'r porth cyfieithu ac mae canllawiau ar gyfer ei ddefnyddio wedi'u cynnwys ar yr hyb.
Mae'r hyb hefyd yn manylu ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael i staff ar gyfer dysgu Cymraeg - ac mae pob un ohonynt yn rhad ac am ddim i staff.
P'un a ydych chi'n newydd i ddysgu, dim ond eisiau brwsio ar eich sgiliau, neu'n siaradwr Cymraeg rhugl sydd am gael mwy o ddefnydd yn y gweithle, mae gan gynnig Cymraeg Gwaith rywbeth i chi.