Cynghorwyr i godi arian ar gyfer elusen drwy gerdded llwybr arfordirol

Mae dau o'n haelodau etholedig y Cynghorydd Emma Goodjohn a'r Cynghorydd Carys Stallard yn cerdded hyd llwybr troed Arfordir Treftadaeth Morgannwg y mis hwn, i dynnu sylw at y darn hardd hwn o arfordir ac i godi arian ar gyfer yr RNLI a Gwylfa Arfordir Cenedlaethol. 

Fel cadeiryddion Pwyllgor Ymgynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg mae'r ddau gynghorydd hyn yn rhannu'r cyfrifoldeb am ymgynnull partneriaid allweddol ddwywaith y flwyddyn i drafod materion sy'n effeithio ar yr ardal.

Mae'r ddau yn mwynhau'r cyfrifoldeb hwnnw ac maent yr un mor angerddol am y cyfleoedd hamdden a gynigir gan y rhan syfrdanol hon o arfordir Cymru, ei hanes a'i bywyd gwyllt. 

Cllr Goodjohn and Cllr Stallard on Heritage Coast

Y flwyddyn nesaf, bydd yr ardal wedi cael statws Arfordir Treftadaeth ers hanner canrif, sy'n rhywbeth i'w ddathlu ac mae'r pâr yn gobeithio y bydd eu taith gerdded elusennol yn annog mwy o bobl i fynd allan i weld beth sydd gan yr arfordir i'w gynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Stallard: “Mae cael statws Arfordir Treftadaeth yn bwysig oherwydd ei fod yn cydnabod bod ein harfordir o Aberddaw i Borthcawl yn wirioneddol arbennig. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r bobl sy'n gwneud bywoliaeth ar hyd yr arfordir i ofalu am ei fioamrywiaeth a'i harddwch. Rydym eisiau cymaint o bobl â phosibl i ymweld a gobeithio y bydd ein taith gerdded yn codi ymwybyddiaeth o faint sydd i'w weld a'i wneud ar y darn ysblennydd hwn o arfordir.”

Dywedodd y Cynghorydd Goodjohn: “Mae'r RNLI a National Coastwatch yn gwneud cymaint i gadw pobl yn ddiogel pan fyddant yn y môr neu ger y môr, gyda chymorth gan wirfoddolwyr ymroddedig. Rydym am dynnu sylw at y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud a chodi rhywfaint o arian iddyn nhw hefyd.”

Bydd Carys ac Emma yn mynd ar y daith gerdded mewn tri cham ar 16, 17 a 18 Medi 2024.

I gyfrannu: https://www.justgiving.com/team/valeheritagecoastwalkteam

Diolch i'ch cefnogaeth! Croeso i chi ymuno gyda ni i gerdded!