Mae ein Tîm Maeth Cymru yn cynnal digwyddiad ar-lein i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn Ofalwr Maeth

Digwyddiad Gwybodaeth Maethu Ar-leinMae Tîm Maethu Cymru Bro Morgannwg yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ar gyfer y rhai a allai fod â diddordeb mewn dysgu mwy am faethu.

Bydd y sesiwn yn trafod y gwahanol fathau o ofal maeth, y daith i fod yn ofalwr maeth, a'r cymorth a'r buddion sydd ar gael gan dîm Maeth Cymru.

Mae hefyd yn gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am faethu i dîm Maethu Cymru.

Dyddiad: Dydd Mercher 4 Rhagfyr
Amser: 7 — 8pm Lle
Oliad: Ar-lein

Mae'r sesiwn hon yn gyfle gwych i unrhyw un a allai fod yn meddwl am faethu plentyn neu berson ifanc yn y Fro ac a hoffai ddysgu mwy am y broses.

Gallwch archebu eich lle ar y digwyddiad trwy Eventbrite.

Methu gwneud y digwyddiad, neu hoffech wybod mwy o wybodaeth? Gallwch gysylltu â thîm Maethu Cymru Bro Morgannwg ar 01446 729600.

Pwy yw Maeth Cymru?

Rhwydwaith cenedlaethol yw Maeth Cymru sy'n cynnwys pob un o'r 22 gwasanaeth maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, gan gynnwys Bro Morgannwg.

Mae'r tîm yn darparu hyfforddiant arbenigol rownd y cloc, cymorth pwrpasol a lwfansau ariannol hael i ofalwyr maeth yn y Fro.

I gael rhagor o wybodaeth am Faethu Cymru Bro Morgannwg, gallwch ymweld â'u gwefan.