Staffnet+ >
Ffocws ar y Dyfodol: Datblygu'r Cynllun Corfforaethol 2025-2030
Ffocws ar y Dyfodol: Datblygu'r Cynllun Corfforaethol 2025-2030
Ymunwch â ni i siarad am y camau nesaf wrth lunio Cyngor y Dyfodol.
Yn dilyn ymlaen o'r sesiynau yn gynharach eleni, mae'n bleser gennym gyhoeddi gweminar unigryw, a gynlluniwyd fel rhan o broses adborth y Cynllun Corfforaethol Drafft.
Mae cydweithwyr wedi helpu i lunio ein huchelgeisiau ers yr haf a nawr rydym yn ceisio rhagor o sylwadau wrth i ni ymgynghori ar y Cynllun Corfforaethol a fydd yn nodi ein trywydd am y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.
Yn ystod y weminar byddwn yn edrych ar y cynllun drafft a'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gyda chyfleoedd i drafod y pum amcan lles a'n blaenoriaethau strategol.
Wedi’i chyflwyno gan ein Prif Weithredwr, Rob Thomas, a Chyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Tom Bowring, bydd y weminar yn cynnwys cyflwyniad byr ac yna sesiwn holi ac ateb, lle gallwch chi ofyn eich cwestiynnau.
Pryd?
Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Tachwedd
Amser: 12:30 – 1:30pm
Pam Dod?
Cyfle i gymryd olwg agosach ar y Cynllun Corfforaethol Drafft a'n pum amcan lles i weld sut y byddant yn ysgogi twf ein sefydliad ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein gweithle a'n cymuned — a deall sut mae eich rôl a'ch cyfraniadau yn cyd-fynd â'r weledigaeth hon ar gyfer y dyfodol.
Helpu i lunio'r dyfodol – Mae eich adborth yn wirioneddol bwysig. Drwy fynychu, rydych yn cyfrannu safbwyntiau gwerthfawr a all ddylanwadu ar ddatblygiad a blaenoriaethau'r cynllun.
Cliciwch yma i gadw'ch lle!