Yr Wythnos Gyda Rob
03 Mai 2024
Annwyl gydweithwyr,
Erbyn hyn gobeithio eich bod wedi gweld y newyddion a chael amser i ddarlen am yr adroddiadau arolygu ardderchog a gafodd y Cyngor gan Estyn yr wythnos hon.
Roedd yr adroddiad i'n gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd a'r ail yn canolbwyntio ar Wasanaeth Ieuenctid y Fro yn disgleirio.
Roedd yr adroddiadau yn canmol ein cydweithwyr sy'n "cyflawni eu rolau'n ddiwyd ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yn y Fro fynediad at addysg a chymorth o ansawdd uchel" ac sydd "wedi ymrwymo i leihau effaith tlodi ar blant a phobl ifanc".

Cafodd y rhai yng Ngwasanaeth Ieuenctid y Fro eu canmol fel gweithwyr proffesiynol sy'n "ymroddedig i'w rolau, yn cyfathrebu'n effeithiol, meithrin perthynas gadarnhaol â phobl ifanc ac sydd â lefelau uchel o egni a brwdfrydedd. Maent bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella a mireinio eu gwaith.”
Ym mis Ebrill roeddwn i'n ddigon ffodus i glywed yr adborth cynnar gan y tîm arolygu ac roedden nhw’n mynnu pwysleisio pa mor anaml y maen nhw'n gweld gwaith mor wych yn gyffredinol mewn cyngor.
Gallwn lenwi fy neges yr wythnos hon gyda dyfyniadau o'r adroddiadau heb wneud cyfiawnder â'r timau y maent yn ymdrin â'u gwaith. Er mwyn ei werthfawrogi'n llawn ni allaf ond awgrymu bod pawb yn cymryd amser i ddarllen yr adroddiadau drostynt eu hunain.
Hoffwn ail-adrodd eto yr hyn a ddywedais yn gynharach yn yr wythnos a dweud diolch eto i bawb a gymerodd ran am eich ymroddiad a'ch ymrwymiad i bobl ifanc Bro Morgannwg. Dylai'r tîm Dysgu a Sgiliau cyfan deimlo'n hynod falch o'r adroddiadau.
Un o'r pethau a wnaeth yr argraff fwyaf ar dîm Estyn oedd sut roedd gwaith Dysgu a Sgiliau yn cyd-fynd â gwaith y sefydliad ehangach ac yn ei dro agendâu cenedlaethol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Ar y diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiadau sy'n tynnu sylw at hyn, roedd Tom Bowring, ein Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, yn siarad yn Fforwm Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghaerdydd. Roedd hwn yn ddigwyddiad yr oedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi’i drefnu ac roedd Tom yno i ddweud wrth gynulleidfa a oedd yn cynnwys uwch swyddogion y Cenhedloedd Unedig, cynrychiolwyr llywodraethau rhyngwladol, arweinwyr ieuenctid Ewropeaidd, ac academyddion sut roeddem wedi ymgorffori'r pum ffordd o weithio yn ein sefydliad.
Cafodd sgwrs Tom ei chanmol gan y Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol ac eraill am egluro sut arweiniodd dechrau gyda chamau syml fel adolygu ein polisïau, at Sgyrsiau Mawr 2015 a 2019 ac ailasesiad sylfaenol o'n gweledigaeth a'n gwerthoedd. Siaradodd amdanon ni yn symud i feddwl am ganlyniadau yn hytrach na dim ond gwasanaethau a sut y gwnaeth hyn yn ei dro lywio ein dull o ymdrin â llyfrgelloedd cymunedol, sefydlu GRhR, lansio Big Fresh, a datblygu gwasanaethau rheng flaen integredig sy'n canolbwyntio ar gymunedau a chymdogaethau.
Mae wedi bod yn ffordd hir ond nid oes amheuaeth ein bod, fel y dengys adborth Estyn, yn gweithio mewn ffordd heddiw na fyddem hyd yn oed wedi ystyried deng mlynedd yn ôl ac mae trigolion y Fro yn gweld budd o hyn.
Fel y dywedodd Tom 'nid yr hyn a wnawn yn unig, ond y 5 ffordd yr ydym yn eu defnyddio yw hi' ac mae'n amlwg bod ein dull gweithredu yn cyflawni'n lleol ac yn cael ei gydnabod yn genedlaethol. Diolch Tom am fod yn llais i Dîm y Fro mewn digwyddiad mor fawreddog ac am helpu i'n hatgoffa ni i gyd o faint o gynnydd rydyn ni wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf.
Un maes cynnydd o'r fath fu yn ein gwaith i adeiladu cysylltiadau gwell a dod o hyd i ffyrdd gwell o gefnogi grwpiau gwirfoddol sy'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymuned. Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn nos Lun fe bleidleisiodd aelodau etholedig i roi anrhydedd seremonïol ar un o'r rhai mwyaf adnabyddus o'r rhain.
Mae gwirfoddolwyr lleol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn Nociau'r Barri a gorsafoedd bad achub Penarth wedi derbyn statws anrhydeddus Rhyddfreinwyr Bro Morgannwg. Mae'r teitlau seremonïol yn cydnabod, ym mlwyddyn dathlu pen-blwydd yr elusen yn 200 oed, y gwasanaeth achubol mae gwirfoddolwyr RNLI wedi'i roi i breswylwyr ac ymwelwyr â'r Fro.
Mae eu gwaith yn cael ei werthfawrogi'n fawr ac yn ehangach nag y mae rhai pobl yn ei wybod, er enghraifft ychydig flynyddoedd yn ôl bu gorsaf RNLI Penarth yn gweithio gyda ni ar brosiect i fynd i'r afael ag unigrwydd a rhoi cyfle i bobl siarad am eu hiechyd meddwl drwy osod y 'Fainc Gyfeillgarwch' a baentiwyd mewn lliwiau'r RNLI ar Esplanâd Penarth.
Yn dilyn penderfyniad y Cyngor ddydd Llun, cyflwynodd yr Arweinydd blac i dîm o'r gwirfoddolwyr i nodi'r anrhydedd ddydd Mercher ac rwy'n edrych ymlaen at nodi'r anrhydedd yn swyddogol yng Ngŵyl y Barri yr haf hwn.
Ddoe, fel rwy'n siŵr eich bod chi i gyd yn gwybod, diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac mae'r cyfrif wedi bod yn digwydd heddiw yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi'r etholiad hwn yng ngorsafoedd pleidleisio'r Fro, yn y lleoliad cyfri ac yn y rolau di-ri y tu ôl i'r llenni sy'n sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer y diwrnod(au) mawr. Mae ein tîm Gwasanaethau Etholiadol wedi cymryd camau breision wrth foderneiddio'r broses yn y Fro cyn yr etholiad hwn ac wedi gweithio'n ddiflino yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio ddydd Iau a'r cyfrif heddiw. Rwyf wedi gweld drosof fy hun faint o waith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod popeth yn mynd fel y dylai. Diolch Rachel a'r tîm cyfan am eich ymdrechion a'ch brwdfrydedd.

Wrth sôn am foderneiddio, hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio i foderneiddio ein system teleffoni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd y trosglwyddiad cyntaf o linellau ffôn traddodiadol i Microsoft Teams yn llwyddiannus yr wythnos diwethaf a bydd y ddau drosglwyddiad nesaf yn digwydd yr wythnos nesaf ddydd Mawrth a dydd Iau. Mae llawer iawn o wybodaeth ategol, gan gynnwys hyfforddiant ar-lein a chysylltiadau allweddol, ar gael nawr ar StaffNet i unrhyw un sydd ei angen. Rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn ffordd hollol wahanol o weithio i lawer ohonom, a gall fod yn annifyr ac yn frawychus. Dyma natur newid ond gyda newidiadau mewn patrymau gwaith a'r defnydd o dechnoleg, mae'r newid hwnnw hefyd yn aml yn angenrheidiol iawn a gall ddod â manteision. Rwy'n hyderus bod hwn yn achos o'r fath a byddwn yn gofyn i ni oll gefnogi'r broses gyda'n gilydd, cadw ati a sicrhau bod y system newydd yn dod â'r manteision a fwriadwyd.
Yn olaf, yr wythnos hon, hoffwn roi gwybod i bob cydweithiwr bod cyfres o weminarau lles ariannol 90 munud am ddim yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad â'r Caffi Dysgu.
Mae'r sesiynau hyn yn cynnig cymorth gyda chyllidebu, rheoli benthyca, gosod nodau ariannol, a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Maent wedi'u cynllunio i fod yn berthnasol i'r holl staff a gallwch gadw lle trwy iDev nawr.
Diolch fel bob amser i bawb am eu gwaith caled yr wythnos hon. Gobeithio y byddwch yn mwynhau penwythnos gŵyl y banc. Diolch yn fawr, bawb.
Rob.